Meithrin Ymdeimlad o Berthyn: Deall y Rhagfarn er mwyn Meithrin Cynhwysiant

5th July 2021

Nododd Sigmund Freud fod yna dair haen i’r meddwl: y rhagymwybodol, y meddwl ymwybodol, a’r meddwl anymwybodol. Mae’r haenau hyn yn debyg i fynydd iâ, gyda’r meddwl anymwybodol yn berygl sy’n cuddio islaw. Mae’n bwerus ac yn llywio ein dewisiadau a’n penderfyniadau ym mhob agwedd ar ein bywyd, gan gynnwys y rhai a wnawn yn y gweithle.

Mae hyfforddiant rhagfarn anymwybodol wedi bod yn boblogaidd mewn cylchoedd Adnoddau Dynol ers sawl blwyddyn bellach, ond a yw’n dal i fod yn berthnasol?

Mae sawl gweithle wedi symud oddi wrth hyfforddiant rhagfarn anymwybodol er gwaethaf y cynnydd mewn gwaith gwrth-hiliaeth ers yr ymgyrchoedd Mae Bywydau Duon o Bwys yn 2020. Mae gwasanaeth sifil y DU wedi rhoi’r gorau i hyfforddiant rhagfarn anymwybodol, gan ddweud nad ydynt yn teimlo ei fod yn cael effaith ar ymddygiad ac nid yw, er enghraifft, wedi gwneud llawer i newid cynrychiolaeth menywod ar lefel rheoli.

Rydyn ni’n gwybod bod gennym ragfarnau – does neb yn dadlau â ni ynglŷn â hynny. Felly beth yw’r ffordd ymlaen o ran meithrin ymdeimlad o berthyn i bawb yn y gwaith?

Fe wnaeth Dr Hade Turkman o dîm Polisi ac Ymchwil Chwarae Teg gynnal gwaith ymchwil i brofiadau menywod BAME yng Nghymru, yn ei hadroddiad Nenfwd Gwydr Triphlyg: Rhwystrau i Fenywod Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) rhag cymryd rhan yn yr economi1 yn 2019. Canfu’r adroddiad fod pobl BAME yn profi gwahaniaethu a rhagfarn ar bob cam o’u gyrfa, hyd yn oed cyn iddi ddechrau. Maen nhw’n fwy tebygol o ystyried y gweithle fel lle gelyniaethus, ac yn llai tebygol o elwa o rwydweithiau, i wneud cais am ddyrchafiadau, ac yn fwy tebygol o gael eu barnu neu eu disgyblu’n hallt. Mae hyn yn deimlad gan bobl o sawl grŵp gwarchodedig. Gyda rhagfarn bosibl ym mhob maes o wneud penderfyniadau yn y gweithle, a hyd yn oed cysylltiadau gweithwyr, mae’n dal i fod yn bwnc perthnasol.

Mae recriwtio a hyrwyddo’n fan cyfyng ar gyfer rhagfarn. Gall tîm recriwtio amrywiol helpu i atal yr ‘effaith eurgylch’ rhag cael effaith negyddol. Mae sgorio ymgeiswyr ar gyfartaledd cyffredinol yn seiliedig ar y gwahanol adolygwyr, yn golygu os oes effaith eurgylch fach yn un o’r recriwtiwyr, mae hyn yn debygol o gael ei gyfartaleddu ymhlith y sgorau eraill. Ond unwaith y bydd gennym amrywiaeth yn y gweithle, a yw pobl yn teimlo eu bod yn perthyn go iawn?

Dull cyfannol o feithrin ymdeimlad o berthyn, fel rhan o strategaeth Cydraddoldeb, Cynhwysiant ac Amrywiaeth, sy’n gweithio orau; mynd i’r afael ag anghydraddoldeb, hyrwyddo cynhwysiant a dathlu amrywiaeth.

Mae agor meddyliau i ffordd amrywiol o feddwl yn dechrau gyda chodi ymwybyddiaeth; mae hyfforddiant rhagfarn anymwybodol yn rhan o hyn.

Awgrymiadau da ar gyfer meithrin ymdeimlad o berthyn:

  • Ymgorffori hyfforddiant rhagfarn anymwybodol yn eich proses ymsefydlu – peidiwch â chymryd yn ganiataol bod pawb sy’n ymuno â’ch sefydliad eisoes yn gwybod am ragfarn.
  • Gwneud hyfforddiant cynwysoldeb ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol yn rhan o’r broses ymsefydlu a chynefino.
  • Hyfforddi’r rhai mewn swyddi uwch i gael y sgiliau a’r ymddygiadau i fod yn arweinwyr sy’n cael eu gyrru gan gydraddoldeb.
  • Ailedrych ar eich gwerthoedd a’ch ymddygiadau sefydliadol – a ydyn nhw’n meithrin ymdeimlad o berthyn?
  • Annog diwylliant o sgyrsiau agored – sicrhau bod cydweithwyr yn gallu herio ymddygiadau
  • Chwilio am hyfforddwyr sydd â phrofiad bywyd – helpu gweithwyr i ddeall effeithiau rhagfarn
  • Ystyried y delweddau rydych chi’n ei ddefnyddio ar lenyddiaeth a gwefannau – a yw gweithwyr yn gweld eu hunain
  • Annog modelu rôl cadarnhaol gan bawb, nid arweinwyr yn unig
  • Sicrhau bod yna bolisïau a gweithdrefnau clir sy’n rhoi eglurder ynghylch sut y gall staff godi pryderon.
  • Bod yn ofalus wrth sôn am ‘ffit ddiwylliannol’ – ailddiffinio’r hyn y mae’n ei olygu i feithrin ymdeimlad o berthyn.

Diffinnir ‘ymdeimlad o berthyn’ gan The Oxford Dictionary fel y teimlad o fod yn gyfforddus ac yn hapus mewn sefyllfa benodol neu gyda grŵp penodol o bobl

Bod ag ymdeimlad o berthyn

Os hoffech gael cymorth pellach i greu gweithle gwirioneddol gynhwysol, lle mae pawb yn teimlo’u bod yn perthyn, cysylltwch â thîm Cyflogwyr Chwarae Teg heddiw.

Gallwn eich cefnogi i addysgu eich gweithlu drwy hyfforddiant rhagfarn, ymgorffori cynhwysiant drwy ein rhaglenni arweinyddiaeth a yrrir gan gydraddoldeb, a hyd yn oed adolygu eich proses recriwtio a dethol er mwyn sicrhau tegwch a chyfiawnder.

Mae gan ein tîm o arbenigwyr ac ymgynghorwyr cyswllt brofiad bywyd o faterion megis anghydraddoldebau rhwng y rhywiau, trawsrywedd, hil a chrefydd, a gallant ddarparu cyfleoedd dysgu effeithiol ac ystyrlon.

Cysylltwch â ni

Gweithiwch gyda ni i helpu i greu byd lle gwerthfawrogir pawb am bwy ydyn nhw a’r hyn maen nhw’n ei wneud.

[email protected]