Pan fyddwn ni’n ôl yn gweithio’n ‘fel arfer’ rhaid i ni gofio dysgu.
Roeddwn i’n siarad â ffrind ychydig wythnosau’n ôl am eu busnes a sut roedden nhw’n nesáu at ddychwelyd i weithio ‘fel arfer’. Yn ddiddorol, gyda dull hyblyg o weithio’n galluogi gweithwyr i weithio yn y ffyrdd sydd orau iddyn nhw, nid pryderon am agor swyddfeydd na rheoli gweithwyr hybrid oedd yn eu poeni. Felly, beth yw’r cur pen ar ôl y cyfnodau clo gofynnais?
Er syndod, yr ymateb oedd “sut ydw i’n sicrhau bod dysgu ar gael i bob un o’r staff? Sut alla i wneud yn siŵr bod gweithwyr yn parhau i ddatblygu eu hunain a gweithredu’r hyn y maen nhw’n ei ddysgu er mwyn gwella’u hunain a’m busnes?” Teimlai’r pwysau fel y perchennog/rheolwr i drefnu amser Dysgu a Datblygu (L&D) ac i dawelu meddyliau staff, rhai’n dychwelyd o saib swydd, bod rhoi amser ar gyfer Dysgu a Datblygu yr un mor bwysig â mynd yn wyllt yn ceisio gwneud yn iawn am amser a gollwyd drwy weithio oriau hirach a mynd ar ôl cwsmeriaid.
Adlewyrchir yr angen i fwrw ymlaen â dysgu a datblygu ar ôl y cyfnod clo yn genedlaethol. Yn ôl y CIPD, canfu ymchwil yn 2020 fod 54% o’r cyflogwyr a holwyd wedi defnyddio dysgu digidol ac ar-lein yn ystod y cyfnod clo, a bod 80% yn bwriadu cynyddu hyn dros y 12 mis nesaf. I grynhoi: “mae pandemig COVID-19 wedi symbylu newid cyflymach a mwy eang i ddysgu digidol, wedi’i ysgogi gan y cynnydd mewn gweithio gartref a’r angen am fathau newydd o hyfforddiant a chymorth“.
Gan feddwl mwy am hyn, buom yn sgwrsio’n anffurfiol gydag ychydig o’r busnesau rydym wedi’u cefnogi yn Chwarae Teg; roeddent hwythau hefyd yn gweld dysgu a datblygu yn her allweddol. Efallai, gan eu bod yn fusnesau goleuedig sydd eisoes wedi gweithredu newidiadau hyblyg i ddulliau o weithio, nad oeddent yn teimlo unrhyw ofn o ran cydbwyso gweithwyr gartref ac yn y swyddfa ac roeddent eisoes yn cefnogi eu gweithwyr benywaidd. Fodd bynnag, roedd Dysgu a Datblygu’n bwnc llosg, gyda busnesau’n gweld manteision dysgu digidol, er enghraifft, ar gyfer cydweithredu, hygyrchedd a chynhwysiant.
Mae’n teimlo fel mai nawr yw’r amser rhagwybodol i fusnesau ddysgu sut i reoli Dysgu a Datblygu mewn amgylchedd busnes a fydd yn wahanol i’r hyn roeddem wedi arfer ag ef cyn y pandemig. Gall ymuno â’n rhaglen Cenedl Hyblyg 2 gefnogi rheolwyr i wella recriwtio, dilyniant a chadw menywod a gall gynnig cyfleoedd i staff benywaidd ddysgu a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn gyrru’r busnes yn ei flaen – sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill, yn enwedig gan fod Cenedl Hyblyg 2 yn cael ei gyflwyno’n ddigidol.
Amlygodd astudiaeth CIPD fod ‘newid dramatig dros nos’ a nodweddwyd gan ganslo ‘trychinebus’ y rhan fwyaf neu’r holl waith dysgu ffurfiol wedi cael effaith enfawr ar sefydliadau, ei weithwyr a sut y caiff Dysgu a Datblygu ei weithredu. Daeth mewnwelediadau allweddol i’r amlwg o’r ymchwil yn enwedig y syniad bod blaenoriaethau dysgwyr a heriau newydd yn dod i’r amlwg yn yr oes ddigidol. Mae’r CIPD yn awgrymu y bydd mwy o ffocws ar sefydlu a chynefino gweithwyr yn ddigidol, datblygu diwylliant tîm iach a chynhyrchiol pan fo aelodau’r tîm wedi’u gwasgaru, hyrwyddo iechyd a llesiant gweithwyr, a defnyddio sgiliau rheoli craidd o bell. Mae’r rhain yn feysydd sy’n ganolog i raglen fusnes Cenedl Hyblyg 2 ac er mwyn sicrhau bod anghydraddoldeb rhywedd yn cael ei ddileu a bod pawb, pwy bynnag y bônt, yn cael y cyfle i fod y gorau y gallant.
Gwnaeth myfyrio ar fy sgyrsiau â’r busnesau y bûm yn siarad â hwy’n ddiweddar, wneud i mi sylweddoli bod cyfnod eithriadol y pandemig wedi dangos ei bod yn hanfodol cael gweithwyr gwydn a gwybodus a gweledigaeth reoli sy’n cwmpasu hyblygrwydd a dysgu a datblygiad parhaus. Bydd ddefnyddio’r adnoddau a gafwyd ar raglenni Cenedl Hyblyg 2, yn cryfhau unigolion a’u gwneud yn fwy parod ar gyfer y galwadau sydd o’n blaenau; yn wir, ein neges yw byddwch yn ddewr, yn chwilfrydig a blaenoriaethwch eich dysgu a’ch datblygiad parhaus eich hun. O ran busnesau, mae’n bryd cofleidio dysgu ar-lein, a nodi ffyrdd newydd o feithrin cydberthnasau â’r holl weithwyr sy’n agored, yn gydweithredol, yn gefnogol ac yn real.
Ariennir Cenedl Hyblyg 2 Chwarae Teg gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ac fe’i datblygwyd i wella sefyllfa menywod sy’n gweithio yn y sector preifat neu’r trydydd sector/sector gwirfoddol, wrth i fenywod barhau i gael eu tangynrychioli ar lefel reoli ledled Cymru. Fe’i cynlluniwyd er mwyn gwella’r sefyllfa hon drwy:
- Weithio gyda menywod cyflogedig sy’n gweithio neu’n byw yng Nghymru er mwyn datblygu sgiliau, a hyder i symud ymlaen yn y gweithle.
- Gweithio gyda busnesau bach a chanolig i ddatblygu recriwtio effeithiol, arferion gwaith ar gyfer cadw a dilyniant gwell a datblygu gweithlu amrywiol.