Mae cwmni o gynghorwyr ariannol wedi gweld cynnydd mewn elw ac arbedion yn unol â boddhad staff a chleientiaid, ar ôl gweithio gyda phrif elusen cydraddoldeb rhywedd Cymru.
Mae Leabold Financial Management, sydd wedi’i leoli yn Abercynnon, wedi ymrwymo i Raglen Fusnes Cenedl Hyblyg2 Chwarae Teg, a ariennir yn llawn, er mwyn rhoi lle canolog i ddatblygiad a dilyniant staff ac ansawdd y gwasanaeth.
Mae’r cwmni ffyniannus bellach wedi ennill statws ‘Cyflogwr Cyflawni Chwarae Teg’ gan Chwarae Teg. Mae wedi cofnodi ei drosiant blynyddol uchaf, sef £620,000, ac mae cyflwyno gweithio ystwyth wedi arwain yn uniongyrchol at arbedion o £20,000 - a rhagwelir arbedion pellach o dros £40,000 dros y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae’r cwmni, sydd wedi’i sefydlu ers 17 mlynedd, yn rhoi cyngor ac arweiniad i unigolion, busnesau, ymddiriedolwyr cynllun pensiwn a chwmnïau proffesiynol eraill. Mae wedi gweithio gydag ymrwymiad diwyro i gydbwysedd o ran rhywedd a chynhwysiant, ac wedi cymryd camau effeithiol fel cyflwyno polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd yn ogystal â meithrin ymdeimlad o hyblygrwydd ac ymddiried mewn staff. Yn ogystal â’r gwobrau ariannol, mae ymdrechion y busnes wedi’i alluogi i ddenu a chadw gweithwyr talentog, cynyddu cynhyrchiant a llesiant staff, yn ogystal â lleihau’r effaith ar yr amgylchedd gan fod llai o alw am deithio erbyn hyn.