I’r rhan fwyaf ohonom, nid yw dweud ‘na’ yn dod yn naturiol. Beth bynnag fo’ch rôl, cyfrifoldeb neu deitl swydd, mae pob un ohonom wedi bod mewn sefyllfa o fod eisiau dweud ‘na’ i bethau sy’n galw ar ein hamser, ond yn aml, nid ydym yn gwybod sut i wneud hynny.
Efallai eich bod yn teimlo’n wael yn siomi cydweithiwr, yn euog neu’n bryderus am wrthod cais gan eich rheolwr. Efallai eich bod yn teimlo na fyddai pobl yn helpu neu’n cydweithio gyda chi ar brosiectau yn y dyfodol. Rydym ni i gyd wedi bod yn y sefyllfa hon ac mae’n gallu bod yn anodd. Felly dyma rai syniadau y gallech roi cynnig arnynt.
Yn y lle cyntaf, mae angen i chi roi eich teimladau i’r naill ochr - meddyliwch am eich llwyth gwaith presennol a’r cyfle. Gofynnwch;
- A oes gen i amser i gwblhau’r hyn sy’n ofynnol gen i mewn gwirionedd?
- A fydd yn peryglu fy amcanion / blaenoriaethau presennol?
- A fydd o fantais i mi neu fy nhîm?
Dylai meddwl am y cais mewn modd rhesymol eich galluogi i wneud penderfyniad clir a yw hyn yn rhywbeth y gallwch ymrwymo ag ef.
“Pan fyddwch chi’n cyfathrebu, byddwch yn hyderus - gall diffyg cysondeb rhwng y geiriau y byddwn yn eu defnyddio, ein tôn llais a’n cyfathrebu di-eiriau (iaith y corff) achosi diffyg ymddiriedaeth.”
Felly, rydych chi bellach yn gwybod bod angen i chi ddweud Na - ond sut ydych chi’n mynd i wneud hynny? Eich tro chi;
- Dylech gydnabod a derbyn fod gan bobl eraill yr hawl i ofyn a bod hawl gennych chi i ddweud “Na”.
- Dylech gydnabod neu ddiolch i’r person - “Diolch am ofyn, byddai’n well gen i beidio…”
- Rhowch y rheswm cywir am ddweud “Na” yn hytrach na gwneud esgus - byddwch yn
gwrtais a chryno. - Uniaethwch gyda’ch penderfyniad eich hun, yn hytrach na chuddio tu ôl i reolau neu bobl eraill.
- Dangoswch eich bod yn dweud “Na”, yn enwedig heb ddefnyddio geiriau (llais cadarn, sefydlog, edrych i fyw’r llygad).
- Gofynnwch am ragor o amser i ystyried os oes angen.
Cofiwch eich bod yn ymateb yn onest a’ch bod wedi ystyried y cyfle’n ofalus, ac nid yn dweud na er mwyn bod yn lletchwith. Bydd eraill yn eich parchu am fod yn realistig, yn onest ac yn hyderus.
Negodi yn bendant, dweud “Nid ar hyn o bryd”
Os nad ydych yn gallu gwrthod gan ei fod yn rhan o’ch cyfrifoldebau, neu os mae’n rhywbeth y byddech yn dymuno bod yn rhan ohono, ond nad ydych yn gallu ei wneud ar hyn o bryd - trafodwch!
- Dangoswch eich bod yn cydnabod eu gofynion.
- Nodwch eich safbwynt, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau, mewn modd onest ac adeiladol.
- Dywedwch eich bod yn parchu eu hawl i wneud y penderfyniad terfynol, os mae hynny’n briodol.
A pheidiwch byth ag anghofio, dylech gefnogi’r hyn y byddwch yn ei ddweud gyda’r ffordd y byddwch yn ei ddweud - dylech swnio ac edrych yn bositif.