Gall pob penderfyniad sy’n cael ei wneud fod gam yn nes at Gymru sy’n gyfartal ar sail rhywedd meddai elusen cydraddoldeb rhywedd

8th March 2022
“Gall pob penderfyniad sy’n cael ei wneud fod gam yn nes at Gymru sy’n gyfartal ar sail rhywedd meddai elusen cydraddoldeb rhywedd” dyna’r neges gan brif weithredwr Chwarae Teg, Cerys Furlong, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Mae arweinydd yr elusen cydraddoldeb rhywedd yn annog perchnogion busnes, cyflogwyr, llunwyr polisi a gwleidyddion i ymgorffori camau gweithredu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn eu penderfyniadau o ddydd i ddydd.

Mae hyn yn dilyn cyhoeddi adroddiad Cyflwr y Genedl yr elusen fis diwethaf a oedd yn dangos bod cynnydd yn rhwystredig o araf o ran llawer o ddangosyddion cydraddoldeb rhywedd yng Nghymru. Mae hyn yn dangos yn glir yr angen i ymgorffori persbectif rhywedd ym mhopeth a wnawn yn ogystal â’r holl gynlluniau a chamau gweithredu ar draws llywodraeth, busnes a chymdeithas.

Roedd data yn yr adroddiad yn dangos bod dau fater yn parhau i fod yn gwbl hanfodol i sicrhau Cymru gyfartal ar sail rywedd – gofal plant a gwaith di-dâl; ac aflonyddu rhywiol, cam-drin a thrais. Dangosodd data eleni hefyd, unwaith eto, sut y gall nodweddion fel rhywedd, hil, rhywioldeb, anabledd, dosbarth, oedran a ffydd ryngweithio gan yn aml greu profiadau lluosog o anfantais.

Mae ymchwil wedi dangos y gall camau i wella cydraddoldeb rhywedd arwain at fanteision lluosog gyda adroddiad Chwarae Teg ei hun o 2018 yn dangos y gallai ychwanegu £13.6biliwn at economi Cymru.

Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yw #ChwaluRhagfarn a dyna’n union sydd angen i ni ei wneud i greu cenedl wirioneddol gynhwysol a chyfartal. Mae angen inni hefyd dorri’r arferiad o ystyried y goblygiadau ar gydraddoldeb rhywedd yn unig ar ôl i benderfyniadau gael eu gwneud. Mae trin cydraddoldeb rhywedd fel ôl-ystyriaeth ar draws gwleidyddiaeth, busnes a chymdeithas yn arwain at y cynnydd araf a welwn.

"Yn Chwarae Teg rydym yn annog perchnogion busnesau, cyflogwyr, llunwyr polisi a gwleidyddion i ymgorffori camau gweithredu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn eu penderfyniadau o ddydd i ddydd. Dangosodd ein hadroddiad Cyflwr y Genedl fod cynnydd ar gydraddoldeb rhywedd yn rhwystredig o araf. Mae hyn yn dangos bod angen i ni newid ein ffordd o feddwl i bob cynllun a gweithred ar draws y llywodraeth, busnes a chymdeithas fel bod cydraddoldeb yn cael ei wreiddio.

"Mae ein hadroddiad Cyflwr y Genedl a phrofiad bywyd menywod, yn parhau i ddangos i ni fod dau fater yn parhau i fod yn hollbwysig os ydym am sicrhau Cymru sy’n gyfartal ar sail rhywedd – gofal plant a gwaith di-dâl ac aflonyddu rhywiol, cam-drin a thrais. Mae'r materion hyn yn effeithio ar bob agwedd ar fywydau menywod, ac fel gyda llawer o faterion anghydraddoldeb, maent yn cael eu teimlo'n fwy difrifol gan fenywod o liw, menywod anabl a grwpiau ymylol eraill.

Cerys Furlong
Prif Weithredwr, Chwarae Teg

Aeth Cerys Furlong ymlaen i siarad am gamau y gellid eu cymryd i wella cynnydd:

"Rydym yn galw ar fusnesau a chyflogwyr i edrych ar fabwysiadu arferion gwaith mwy hyblyg a chynhwysol a all gefnogi staff â chyfrifoldebau gofalu, ac i gymryd camau i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn eu gweithleoedd.

“Hoffem hefyd weld llunwyr polisi a gwleidyddion yn ystyried sut a ble y caiff arian ei fuddsoddi a sut y gall polisi cyhoeddus ysgogi newid sy’n gweithio i fenywod yn fwy effeithiol – gan ddefnyddio dulliau sy’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldeb. Rhaid i hyn gynnwys ail-lunio’r economi i roi gwerth gwell ar y gwaith y mae menywod yn ei wneud, rhoi diwedd ar ein dibyniaeth ar ofal di-dâl a buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol fel gofal plant a gofal cymdeithasol."