Gemma Casey, crëwr Ysbrydoli Menywod Cymru, yn siarad am fenywod, busnes a hyder

12th December 2022

Beth yw’r un peth sy’n dal llawer o fenywod yn ôl pan fyddan nhw’n ystyried dechrau busnes?

Neu, os ydyn nhw’n mentro, beth sy’n eu hatal rhag tyfu’r busnes i’w wir botensial?

Byddai llawer yn dweud mai cyllid sy’n eu hatal. Byddai rhai yn dweud, amser.

Mae llawer o’r merched rydw i wedi gweithio â nhw yn ystod fy amser mewn cymorth busnes yn aml yn enwi’r ddau beth yna fel eu rhwystrau mwyaf. Ac wrth gwrs, mae arian ac amser yn ystyriaethau enfawr wrth benderfynu camu allan ar eich liwt eich hun, neu fynd â busnes i’r lefel nesaf.

Ond yn fy marn i, mae yna un rhwystr sydd y tu ôl i’r ddau beth yna mewn gwirionedd - a’r rhwystr hwnnw yw hyder.

Gellir dehongli hyder mewn gwahanol ffyrdd. Dydw i ddim yn awgrymu bod gan fenywod ddiffyg hyder yn eu gallu. Yn hytrach, rwy’n awgrymu efallai nad oes ganddyn nhw hydery byddan nhw, er enghraifft, yn gallu jyglo rhedeg busnes gyda bywyd teuluol. Yna mae hynna’n amlygu ei hun fel pryder na fydd ganddyn nhw ddim digon o amser ar gyfer eu busnes eu hunain.

Neu efallai nad oes ganddyn nhw’r hyder y byddan nhw’n gallu sicrhau’r cyllid i dyfu busnes - dyna’r pryder ariannol.

Ofn cyffredin arall ymhlith y merched rydw i wedi gweithio â nhw yw na fydd ganddyn nhw fynediad at y rhwydweithiau iawn i’w helpu - neu ddiffyg hyder y byddan nhw’n ffitio i mewn i’r hyn maen nhw’n ei weld fel y ‘sîn’ busnes arferol.

Mae The Rose Review of Female Entrepreneurship, a ysgrifennwyd gan Brif Swyddog Gweithredol NatWest Alison Rose, yn amlygu’r holl rwystrau hyn (a mwy) sy’n atal menywod rhag dechrau a thyfu busnesau. Mae’n galw am gamau i gefnogi menywod i’w goresgyn, gan gynnwys mynediad at fodelau rôl y gallan nhw uniaethu â nhw.

Dyna pam y gwnes i ymuno â Chyfnewidfa Prifysgol De Cymru i lansio Ysbrydoli Menywod Cymru, podlediad sy’n adrodd hanesion sylfaenwyr benywaidd, gan roi modelau rôl iddyn nhw wrando arnyn nhw a dysgu oddi wrthyn nhw y gall menywod wirioneddol uniaethu â nhw a theimlo’u bod nhw’n siarad yr un iaith.

Yn y podlediad rydyn ni’n clywed am uchafbwyntiau a heriau sefydlu busnesau newydd a thyfu busnesau - ac mae digon o enghreifftiau o’r sylfaenwyr yma’n gorfod dod o hyd i’r hyder i symud eu busnes yn ei flaen.

Fel er enghraifft Natalie Isaac o 44 Group a welodd, ar ôl dychwelyd i’r Bont-faen, ei thref enedigol, o fyw yn Llundain, bod bwlch yn y farchnad ar gyfer bar gwin y byddai menyw sengl yn teimlo’n gyfforddus yn mynd iddo. Mae ei hyder yn y cysyniad hwnnw wedi arwain at fusnes teuluol gyda nifer o fariau a bellach gwesty yng nghanol y ddinas.

Neu Frankie Hobro, Cyfarwyddwr Sw Môr Môn, a oedd, ar ôl blynyddoedd yn gweithio ym maes cadwraeth ar ynysoedd egsotig, pellennig, yn hyderus y byddai’r rhinweddau fel gwydnwch a dyfeisgarwch a ddatblygwyd ganddi yn ei rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer byd busnes.

Mae Lianne Weaver o Beam Development and Training, sydd â’i stori hefyd yn ymddangos yn y gyfres podlediadau, yn diffinio hyder fel ‘ymddiried ynoch chi’ch hun’.

Drwy arddangos y sefydlwyr busnesau Cymreig benywaidd gwych yma rydyn ni am ysbrydoli eraill a rhoi rhywbeth iddyn nhw feddwl amdano. Rydyn ni eisiau iddyn nhw fod yn fwy hyderus, gan ymddiried ynddyn nhw eu hunain, a meddwl: “Mae’r merched hyn yn swnio’n union fel fi ac os gallan nhw ei wneud o, yna fe alla i hefyd”.

Mae Ysbrydoli Menywod Cymru ar gael ar Apple Podcasts a Spotify.