Gweithio Gartref

6th August 2020

Gweithio gartref fydd y norm, ond mae angen i ni addasu’r ffyrdd rydym ni’n cefnogi gweithwyr

Rydym ni i gyd wedi clywed yn ddiweddar sut mai gweithio gartref yw’r ‘norm newydd’, ond mae nifer o sefydliadau ar draws Cymru wedi bod yn elwa o weithio o bell ers cryn amser bellach. Yn ôl arolygon diweddar, roedd 1.54 miliwn o bobl yn gweithio gartref yn y DU cyn Covid, ac roedd hyn ynddo’i hun yn gynnydd o 44% ar yr un ystadegyn 10 mlynedd yn ôl1 .

Ers Covid rydym wedi gweld cynnydd dros dro o dros 27 miliwn o bobl ychwanegol yn y DU yn gweithio gartref. Neu ai rhywbeth dros dro yw hyn?

  • Mae’r cyfnod cloi wedi cyflymu’r angen am weithio o bell ac wedi symud gweithio gartref yn uwch ar restr flaenoriaeth perchennog y busnes. Gall pob un ohonom gytuno ei fod wedi dod yn rhywbeth ‘y mae’n rhaid i ni ei wneud’ yn achos llawer o sefydliadau ond mae gweithio gartref yn rhywbeth y ‘dylid ei wneud’, felly gallai fod yn fuddiol atgoffa’n hunain o fanteision gweithio o bell.
  • Gall ehangu eich cronfa dalent, oherwydd gall mynychu swyddfa yn ddaearyddol fod yn gyfyngiad pan fydd ymgeiswyr yn chwilio am swyddi newydd. Tynnwch y swyddfa oddi yno ac fe fyddwch yn cynyddu’ch dalgylch ac amrywiaeth eich ymgeiswyr.
  • Gellir gwella dargadw gweithwyr trwy roi’r cyfle i’ch gweithwyr gyrraedd eu targedau ar adeg sy’n addas iddyn nhw a’r busnes. Cydnabyddir yn gynyddol bod rôl hyblyg yn beth buddiol, oherwydd gall gweithio gartref rymuso’ch gweithwyr i weithio lle a phryd sy’n gweddu orau iddyn nhw.
  • Caiff gwell cydbwysedd gwaith/bywyd ei greu trwy gael gwared ar gymudo dyddiol, er enghraifft. Mae hyn yn lleihau’r amser sy’n cael ei dreulio yn y gwaith heb dreulio llai o amser yn gweithio. Mae gweithio gartref, cyfarfodydd zoom ac ati wedi peri inni gwestiynu beth sy’n wirioneddol bwysig yn ein swyddi.
  • Mae manteision ariannol posibl i’r busnes gan fod angen llai o le swyddfa arnom.

Mae manteision gweithio gartref yn achos y gweithiwr a’r cyflogwr yn ymestyn yn llawer ehangach na’r rhestr hon, ac am bob mantais rwy’n siŵr y gallai rhywun ddyfynnu rhwystr posibl. Y meysydd amlwg y mae’n rhaid i ni i gyd eu hystyried yw iechyd a lles gweithwyr, goresgyn teimladau o bellter a sicrhau ein bod yn tynnu gyda’n gilydd er mwyn cyflawni nodau’r sefydliad. Y cwestiwn yw, sut ydym ni’n gwneud y mwyaf o’r potensial ar gyfer gweithio o bell wrth lywio o amgylch y ‘crwyn banana’ posib hynny?

Yma yn ‘Chwarae Teg’ rydym wedi bod yn gweithio o bell ers cryn amser, ond fel unrhyw sefydliad arall sydd yn yr un sefyllfa rydym wedi gweld bod y cyfnod o gloi gorfodol yn wahanol ac rydym yn addasu’n gyson.

Dyma rai o’n hargymhellion:

1. Derbyniwch nad ‘busnes fel arfer’ yw hyn a bod eich gweithwyr yn gweithio mewn ffordd na wnaethon nhw erioed o’r blaen.

Gall cartrefi fod yn fannau prysur i rai neu’n lleoedd unig iawn i eraill. Atgoffwch eich staff eich bod chi i gyd yn hyn oll gyda’ch gilydd.

2. Rhowch les pobl ar frig eich agenda.

Roeddem ni’n gwybod fod hyn yn bwysig o’r blaen ond nawr mae angen ei fonitro’n rheolaidd. Os ydych chi’n debyg i fi, byddwch chi wedi profi uchafbwyntiau ac isafbwyntiau yn ystod y cyfnod cloi. Mae deall mai dyna’r norm yn ei gwneud hi’n haws derbyn, ond peidiwch ag anwybyddu’r arwyddion gan obeithio y bydd yn diflannu. Does dim amheuaeth, os ydych chi’n teimlo’r pwysau, yna mae eraill felly hefyd.

Mae’r cyfnod cloi yn brofiad ingol. Mae Nathan Smith, ymchwilydd seicoleg a diogelwch o Brifysgol Manceinion, wedi gweithio gyda gofodwyr ac eraill sydd wedi’u hynysu mewn amgylcheddau eithafol. Er bod hyn yn swnio’n wahanol iawn, y gwir amdani yw nad ydyn nhw mor bell â hynny oddi wrth ei gilydd. Meddai “Mae’r gymhariaeth gorfforol rhwng cael eich ynysu yn Antarctica neu’r gofod yn amlwg yn wahanol i fod yn eich cartref, ond mae’r tebygrwydd seicolegol a chymdeithasol yn eithaf agos. Yr undonedd a’r diflastod, ailadrodd, diffyg amrywiaeth, y teimladau o bryder ac ofn, yr agosrwydd cymdeithasol.” Mae hynny’n sicr yn swnio’n gyfarwydd i mi ac rwy’n eithaf sicr nad ydw i wedi bod i’r gofod…..eto!

Cefnogwch eich staff er mwyn iddyn nhw fod y gorau y gallan nhw. Cofiwch fod pawb yn wahanol a bydd angen rhywbeth gwahanol ar bob person i’w cadw i gyflawni. Yn union fel gwahanol rolau swydd, mae yna rai mathau o bersonoliaeth sy’n fwy addas ar gyfer gweithio gartref. Dylech drin pob person fel unigolyn a gadewch iddyn nhw ddweud wrthych beth sydd ei angen arno/arni.

3. Byddwch yn greadigol yn eich ffordd o gyfathrebu.

Yn ‘Chwarae Teg’, rydym yn sylweddoli’n gyflym iawn bod negeseuon e-bost, cyfarfodydd ar-lein a galwadau ffôn ar gynnydd. Er y gallai hyn fod yn angenrheidiol, gall hefyd fod yn faich a gall golli ei effeithiolrwydd yn sgil y crynswth. Yn ddiweddar, cefais gerdyn diolch wedi’i bersonoli gan fy Mhrif Swyddog Gweithredol a hynny drwy’r post. Roedd hyn, nid yn unig yn ystyriol ac wedi gwneud i mi wenu, ond yn rhywbeth annisgwyl a gwahanol a barodd i’r digwyddiad sefyll allan. Amrywiwch eich dull cyfathrebu.

4. Peidiwch â rhoi stop ar ddatblygiad personol.

Nid yn unig mae’n allweddol er mwyn ennyn diddordeb eich staff ond mae ei angen nawr yn fwy nag erioed. Cyfarfodydd rhithwir ar gynnydd? Ystyriwch gwrs mewn cyfarfodydd rhithwir effeithiol. Lles yn broblem? Cyflwynwch erthygl ar iechyd meddwl a fu’n ddefnyddiol yn eich achos chi.

5. Daliwch ati i rannu arferion gorau gweithio gartref.

Rydym ni’n darganfod rhai newydd bob dydd. Nid dim ond un person sy’n berchen ar bob syniad newydd; hwyluswch y dasg o rannu syniadau a bod yn batrwm ymddwyn trwy dynnu sylw at y rhai sy’n gweithio i chi. Yn ‘Chwarae Teg’ rydym yn treialu ‘dim e-bost dydd Gwener’ a ‘dim cyfarfod dydd Mercher’! Swnio’n wynfyd on’d yw e? Mae’r teimladau cychwynnol yn gadarnhaol ond rhown ddiweddariad i chi ar sut mae hyn o fudd i bob un ohonom.

6. Adolygwch eich polisïau er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben.

Rwy’n weddol sicr nad oedd gan unrhyw un bandemig mewn golwg pan ysgrifennwyd y rhain gyntaf. Byddwch yn synnu sut y gellir eu diweddaru yn ôl yr hyn rydych chi’n ei wybod nawr. Gwnewch nhw’n hygyrch i’r holl staff sy’n gweithio o bell fel eu bod yn gwybod ble i fynd am arweiniad pellach lle bo hynny’n briodol.

7. Trafodwch y pethau cadarnhaol yn agored, nid y pethau negyddol yn unig.

Mae yna ddigon! Dyma rai rydw i wedi’u casglu gan gydweithwyr a ffrindiau.

8. Yn olaf ond yn bendant nid y lleiaf, siaradwch am sut rydych chi’n bwriadu addasu i’r norm newydd.

Efallai y bydd cymryd y camau yn ôl i’r norm newydd yr un mor frawychus i rai ag yr oedd y cyfnod cloi yn eu hanes. Helpwch eraill i weld golau ar ben eitha’r twnnel ac er efallai na fyddwn ni byth yn mynd yn ôl i sut roedd pethau, byddan nhw’n dod yn haws.

1ONS. Coronavirus and homeworking in the UK labour market: 2019. Available online: https://www.ons.gov.uk/

Paratowyd yr erthygl hon gan Chris Yanez, Partner Gyflogwr ar gyfer Prosiect Agile Nation 2 Chwarae Teg.
I gael mwy o wybodaeth ar sut y gallai eich busnes elwa o weithio gyda’n tîm busnes ar ein rhaglen fusnes a ariennir gan Cenedl Hyblyg 2, cliciwch yma.
1st Jun 2020
Agile Nation2
Project