“Parodd y cyfnod clo i fenywod deimlo’n flinedig, wedi’u llethu, a heb eu gwerthfawrogi’n ddigonol wrth iddynt geisio cydbwyso gofal, addysgu gartref, a’u gwaith ar yr un pryd.”
Mae adroddiad newydd gan Chwarae Teg wedi datgelu effaith gofal plant ac addysgu gartref ar fenywod yng Nghymru yn ystod y cyfnod clo.
Cafwyd dros 1,000 o ymatebion gan fenywod i arolwg a gynhaliwyd gan yr elusen, gan rannu eu profiadau o Covid-19 a’r cyfnod clo. Datgelodd yr arolwg mai menywod yn bennaf oedd yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb am ofal plant ac addysgu gartref, ac roedd hyn yn effeithio ar eu gallu i weithio ac ar eu hiechyd a’u llesiant.
Cyfrannodd rhagdybiaethau ar sail rhywedd o fewn y cartref a chan gyflogwyr, o ran pwy fyddai’n gyfrifol am ofal, patrymau gweithio anhyblyg, prinder menywod wrth wneud penderfyniadau, a llunio polisïau a fethodd ag ystyried profiadau menywod at yr heriau a brofodd menywod yn ystod y cyfnod clo.
Ni rannwyd pwysau’r argyfwng yn hafal. Roedd effeithiau iechyd ac economaidd yr argyfwng yn fwy tebygol o effeithio ar rai grwpiau o fenywod yn benodol, gan gynnwys rhieni sengl, menywod croenliw, menywod ar incwm isel, a menywod hunangyflogedig.
Mae’r adroddiad, “Jyglo Cyson o Ddydd i Ddydd”: Gofal Plant ac Addysgu Gartref yn ystod y Cyfnod Clo Cyntaf, yn galw am weithredu i sicrhau nad yw unrhyw gyfnodau clo pellach neu dynhau cyfyngiadau’n golygu bod menywod dan anfantais ac am fynd i’r afael â’r materion sylfaenol a olygodd bod menywod yn fwy agored i’r profiadau negyddol hyn yn y lle cyntaf.