Menywod dros hanner cant yn wynebu anfantais a gwahaniaethu unigryw yn y gweithle

16th May 2023

Mae ymchwil a gyhoeddwyd heddiw (16.05.23) gan brif elusen cydraddoldeb rhywedd Cymru, Chwarae Teg, yn datgelu bod gormod o fenywod 50 oed a hŷn yn teimlo’n anweledig a’u bod yn cael eu hanwybyddu gan gyflogwyr, y llywodraeth a chymdeithas.

Mae’r adroddiad, Profiadau Gwaith Menywod dros 50 oed yng Nghymru, yn datgelu bod llawer o fenywod yn y grŵp oedran hwn yn wynebu rhwystrau rhag aros mewn gwaith, ac yn profi anfantais a gwahaniaethu yn y gwaith.

Yn wir, mae menywod dros 50 oed yn profi sawl math o wahaniaethu yn y gweithle. Roedd bron i hanner y menywod a adroddodd am wahaniaethu ar sail rhyw/rhywedd hefyd wedi profi gwahaniaethu ar sail oed. Mae hyn yn cynnwys gwahaniaethu ac aflonyddu anuniongyrchol ac uniongyrchol, sy’n cael effeithiau pellgyrhaeddol ar hyder, llesiant ac iechyd meddwl.

Mae cyfrifoldebau gofalu yn atal menywod dros hanner cant rhag parhau i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd, gyda mwy a mwy o fenywod yn y grŵp oedran hwn bellach yn gofalu am rieni hŷn a phlant neu wyrion dibynnol. Mae gofalu am bobl iau a hŷn yn golygu mai’r grŵp yma sydd wedi dioddef fwyaf yn sgil y bylchau yn y systemau gofal plant a gofal cymdeithasol. 

Mae symptomau menopos hefyd yn effeithio’n andwyol ar allu llawer o fenywod i weithio fel arfer. Canfu Chwarae Teg fod stigma menopos yn barhaus a’i fod yn atal menywod rhag cael sgyrsiau agored gyda rheolwyr a chydweithwyr am eu hanghenion. Roedd 27% o’r menywod wedi cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith oherwydd symptomau menopos, ond roedd llai na hanner wedi dweud wrth eu rheolwr y gwir reswm dros eu habsenoldeb.

Mae effaith y materion hyn ac anghydraddoldeb ar sail rhywedd ar hyd eu hoes yn sylweddol o ran cyflog a phensiynau i fenywod dros hanner cant oed. Mae’r bwlch cyflog ar sail rhywedd yn ehangu gydag oedran, gan gyrraedd 21% ar gyfer menywod 50 -59 oed. Er nad oes mesur swyddogol o’r bwlch pensiwn ar sail rhywedd, mae ymchwil yn awgrymu bod y bwlch pensiwn ar sail rhywedd ar gyfer menywod yng Nghymru yn 31.2% - yn sylweddol uwch na’r bwlch cyflog ar sail rhywedd. Mae hyn yn gadael menywod mewn llawer mwy o berygl o ddioddef caledi ariannol wrth iddynt symud tuag at ymddeol.

Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, mae argymhellion Chwarae Teg yn cynnwys galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu Gwarant Dros 50, i sicrhau bod gan y rhai nad ydynt wedi ymddeol eto fynediad at waith, hyfforddiant neu hunangyflogaeth, i ddarparwyr gwasanaethau cymorth sicrhau bod eu cynnig yn cynnwys gweithwyr dros 50 oed ac i gyflogwyr sicrhau bod polisïau gweithio hyblyg ar waith a bod pobl yn cael eu cefnogi i weithio’n hyblyg.

Dylid hefyd annog mwy o ymwybyddiaeth o ragfarn oed ar sail rhywedd a chefnogaeth ar gyfer materion cysylltiedig fel y menopos ledled Cymru er mwyn sicrhau bod menywod dros hanner cant yn gallu symud ymlaen o fewn gwaith.

Mae'r ymchwil hwn yn amlygu'r rhwystrau a'r gwahaniaethu penodol y mae menywod dros hanner cant yn eu hwynebu yn y farchnad lafur yng Nghymru. Mae hefyd yn dangos effaith anghydraddoldeb ar sail rhywedd, sy'n ehangu wrth i ni heneiddio.

“Mae menywod dros hanner cant yn allweddol i iechyd economaidd ein cymdeithas, a dylai gwasanaethau cymorth a chyflogwyr fod yn gwneud mwy i'w cefnogi i sicrhau gwaith ystyrlon a symud ymlaen o fewn y gwaith hwnnw. Mae yna lawer iawn o amrywiaeth o brofiadau ac amgylchiadau ymhlith menywod dros hanner cant yng Nghymru. Yn lle dweud nodweddu anweithgarwch economaidd pobl dros 50 oed o ganlyniad i weithwyr cefnog yn ymddeol yn gynnar, mae angen i ni fynd i'r afael â'r rhwystrau y mae gwahanol grwpiau o fenywod yn eu hwynebu i aros mewn gwaith.

“Menywod sy’n parhau i fod y mwyaf tebygol o leihau eu horiau neu adael gwaith yn gyfan gwbl i ofalu am aelodau'r teulu. Mae ein hymchwil yn dangos bod diffyg darpariaeth ddigonol o ofal plant a gofal cymdeithasol i oedolion yn cael effaith ddwbl ar fenywod dros hanner cant gan eu bod yn fwy tebygol o fod yn gofalu am wyrion a rhieni sy'n heneiddio. Ynghyd â'r cynnig anghyson o waith hyblyg, mae llawer o fenywod dros hanner cant yn gadael neu'n lleihau gwaith sy’n rhoi boddhad iddyn nhw oherwydd cyfrifoldebau gofalu. Rhaid i'r llywodraeth fynd i'r afael â'r bylchau mewn gofal plant a gofal cymdeithasol i oedolion er mwyn sicrhau y gall menywod gael mynediad at gyflogaeth os ydyn nhw’n dewis gwneud hynny.

Lucy Reynolds
Prif Weithredwr, Chwarae Teg
16th May 2023
Working Experiences of Women over 50 in Wales
Research