Amser i ddarganfod Merched Gwych o Gymru

29th June 2020

Mae Chwarae Teg wedi cychwyn arddangos chwech Merched Gwych o Gymru i ddathlu eu bywydau a’u llwyddiannau – cyn y cynhelir pleidlais ‘dewis y bobl ‘ yng ngwobrau Womenspire yn ddiweddarach eleni.

Mae’r ymgyrch ddigidol yn proffilio cyfres o fenywod ffantastig bob blwyddyn, o bob cefndir, o hanes a heddiw. Y nod yw amlygu eu llwyddiannau, a rhoi i ferched a menywod ifanc ar draws y genedl fodelau rôl i ymgeisio atynt.

Eleni, cydweithiodd Chwarae Teg gyda Senedd Ieuenctid Cymru (SIC), Cyngor Hil Cymru (CHC) a’r Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig a Ieuenctid (EYST) ar yr ymgyrch. Dewisiodd pob ardal seneddol o SIC un menyw i gael sylw, fel a gwnaeth CHC ac EYST, fel a ganlyn:

Tahirah Ali - Gwirfoddolwr Cymunedol, Llysgennad Ieuenctid a Hyrwyddwr Amrywiaeth(EYST)

Kate Bosse-Griffiths - Eifftolegydd a’r awdur Cymraeg, a anwyd yn yr Almaen, (De-ddwyrain Cymru)

Betsi Cadwaladr - Nyrs, Arloeswraig, Ac enw bwrdd lechyd mwyaf Cyrmru (Gogledd Cymru)

Mrs Vernesta Cyril OBE - Sylfaenydd Cyngor Cydraddoldeb Hiliol De-ddwyrain Cymru (CHC)

Caryl Parry Jones - Canwr-gyfansoddwr, darlledwr, actores, awdur a chyfansoddwr, (De-orllewin Cymru)

Elin Jones AS - Llywydd y Senedd (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Bydd y menywod yn cael eu proffilio drwy lwyfannau digidol Chwarae Teg ar Instagram, trydar, Facebook a’i wefan.

Bydd yr ymgyrch yn diweddu gyda phleidlais fyw yn ystod gwobrau Womenspire Chwarae Teg ar 29 Medi - a fydd yn arwain at un fenyw yn derbyn tlws Dewis y Bobl. Eleni, oherwydd Covid19, bydd y seremoni yn cael ei gynnal ar-lein ond serch hynny mae’n addo bod yn noson i’w chofio.

Mae ein hymgyrch Merched Gwych o Gymru yn ceisio arddangos menywod sydd wedi cyflawni rhywbeth arbennig, boed hynny mewn gwyddoniaeth, chwaraeon, cerddoriaeth, celf, gwleidyddiaeth neu mewn mannau eraill.

Cerys Furlong
Prif Weithredwr, Chwarae Teg

Yn wreiddiol o’r Almaen y daeth Kate Bosse-Griffiths, a symudodd hi yma yn 1936. Roedd gan ei mam hi waed Iddewig, ac fe gafodd Kate ei diswyddo o’i swydd fel curadur amgueddfa yng nghanol Berlin oherwydd hyn. Daeth yn ffoadur i Brydain, er mwyn dianc rhag y Natsiaid. Cafodd swydd yn St Andrews yn yr Alban, ac yna astudio fel eifftiolegydd yn Rhydychen. Hi oedd fy hen Famgu. Yn Rhydychen fe wnaeth hi gwrdd a’i gwr, oedd yn Gymro, cyn symud i’r Rhondda i fyw. Dysgodd hi Gymraeg yn rhugl; roedd hi’n awyddus i integreiddo, a pherthyn i Gymru a’i theulu newydd. Magodd hi ei phlant (gan gynnwys fy Nhad-cu) yn uniaith Gymraeg. Ysgrifennodd hi nofelau a gweithiau eraill Cymraeg. Mae hi’n arwres i mi - rwy’n meddwl ei fod yn anhygoel, y ffordd y gwnaeth hi ymfalchio mewn bywyd newydd â breichiau agored. Er mai ffoadur oedd hi, roedd hi hefyd wedi tyfu’n Gymraes, ac yn perthyn yma. Gallwn fod yn falch bod Cymru wedi rhoi’r fath groeso iddi. Roedd hi’n ddewr, yn frwdfrydig o ran ei hagwedd, ac am gyfrannu tuag at ddiwylliant Cymru.

Greta Evans
Aelod o'r Senedd Ieuenctid, De-ddwyrain Cymru

Ni fyddai democratiaeth yng Nghymru yr un peth heb ein henwebiad ni, Elin Jones. O osod blociau adeiladu cyntaf ein Senedd Ieuenctid Cymru, gan sicrhau ein bod ni fel pobl ifanc yn cael dweud o'r diwedd am sut yr ydym ni'n cael ein llywodraethu yng Nghymru - i fod ar flaen y gad yn ein Senedd yn cynrychioli Cymru yn fyd-eang fel ein Llywydd, a hefyd cadw at ei gwreiddiau gan cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru gyda'i gwaith gwych fel aelod o'r Senedd. Byddai'r Gymru fodern a gwleidyddiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa waeth o lawer heb Elin Jones.

Ifan Price
Aelod o'r Senedd Ieuenctid, Canolbarth a Gorllewin Cymru

Rwyf wedi dewis enwebu Caryl Parry Jones ar gyfer y wobr hon oherwydd ei chyfraniad i'r Gymraeg. Mae cerddoriaeth Caryl wedi dod yn rhan gynhenid o ddiwylliant yr iaith Gymraeg ac wedi bod yn ysbrydoliaeth i lawer o siaradwyr Cymraeg ifanc. Mae Caryl yn dod â hwyl i'r Gymraeg, ffactor pwysig iawn gan ein bod ni am gyrraedd 1miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Mae ei phersonoliaeth yn disgleirio trwodd yn ei nifer o swyddi fel canwr-gyfansoddwr, darlledwr, actores, awdur a chyfansoddwr. Mae Caryl yn profi bod siarad Cymraeg yn gallu bod yn hwyl ac yn ddiddanwr Cymraeg gwerthfawr iawn. Mae hi'n fedrus yn y busnes o roi gwên ar wynebau pobl. Mae ei gwaith wrth geisio hyrwyddo'r Gymraeg wedi bod yn anhygoel ac am y rheswm hwnnw, rwy'n credu ei bod hi'n haeddu ennill y wobr yma.

Efan Fairclough
Aelod Seneddol ieuenctid, De-orllewin Cymru

Enwebais Betsi Cadwaladr gan ei bod hi'n ddynes gref, nerthol a phenderfynol a wasanaethodd, er gwaethaf gwrthwynebiad y rhai oedd o'i hamgylch, fel nyrs yn ystod rhyfel Crimea 1853-56, gan ymladd biwrocratiaeth a chyflwr anhylan o ran cyfleusterau er mwyn sicrhau'r safon gorau o driniaeth i'r milwyr, gan ddylanwadu ar newid mawr yn y ffordd y cafodd cleifion eu trin yn ôl yn y DU.

Harrison Gardner
Aelod Seneddol ieuenctid, Gogledd Cymru