Dywedwch wrthym am eich sefydliad
Rhwydwaith BYP yw’r rhwydwaith mwyaf o weithwyr proffesiynol du yn y DU. Wedi’i sefydlu yn Llundain yn 2016, rydym yn cysylltu gweithwyr proffesiynol du â’i gilydd a sefydliadau. Rydym hefyd yn helpu sefydliadau i ddenu, ymgysylltu, recriwtio a chadw Doniau Du o’n rhwydwaith.
Rydym wedi gweithio gyda dros 900 o bartneriaid corfforaethol gan gynnwys Meta, Accenture a Soho House ac wedi cael sylw mewn cyhoeddiadau gan gynnwys Forbes, BBC a Roc Nation.
Mae BYP Caerdydd yn cynrychioli gweithwyr proffesiynol du yng Nghymru gan roi sylw i sêr y dyfodol, arweinwyr yn y gymuned a sefydliadau blaengar yng Nghaerdydd.
Pam rydych chi’n cefnogi’r gwobrau?
Fel rhwydwaith rydym wrth ein bodd yn dathlu llwyddiant o fewn y tîm ond hefyd yn y gymuned. Mae mwyhau ar leisiau a chyflawniadau eraill yn biler canolog o’n gwaith ni fydd yn debygol o gael y sylw ac arddangos amrywiaeth. Rydym yn caru bod Womenspire yn ddathliad o fenywod hynod o bob cefndir. Ar ôl lansio BYP yng Nghaerdydd hefyd, rydym yn deall yr heriau sy’n ymwneud ag amrywiaeth a chydraddoldeb sy’n benodol i’r rhanbarth ac rydym yn falch o ddathlu cyflawniadau’r rhai yng Nghymru sy’n gwthio am newid.
Pam mae cydraddoldeb rhywedd yn bwysig i chi?
“I mi, mae’n golygu mwy o gyfle i bawb. Mae’n golygu rhyddid - rhyddid i ddewis pa lwybr rydw i eisiau ei ddilyn yn broffesiynol, rhyddid i archwilio fy nghreadigrwydd, rhyddid i dyfu a datblygu, rhyddid i fyw heb ofni gwahaniaethu.” Lynn Abhulimen, Rheolwr Cymunedol, Rhwydwaith BYP
Pam rydych chi’n cefnogi gwaith Chwarae Teg?
Mae Chwarae Teg fel sefydliad yn gwneud llawer iawn o waith i wella cydraddoldeb rhywedd ar draws y wlad. Maent hefyd yn ymrwymo i arallgyfeirio eu tîm ac arfogi sefydliadau eraill â’r wybodaeth a’r offer i wella cydraddoldeb yn y gweithle - nid cydraddoldeb rhywedd yn unig ac rydym yn falch o gefnogi’r holl waith sy’n cael effaith ar greu yfory gwell a thecach.