Mae creu Cymru gyfartal yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom. Rydym am weld Cymru lle mae menywod o bob cefndir a phrofiad yn cael eu hannog i gyflawni a blodeuo.
Mae menywod yn parhau i brofi rhwystrau o fewn yr economi ac yn y gweithle sydd ddim yn broblem i ddynion. Gwyddom fod menywod yng Nghymru yn parhau i ennill llai na dynion oherwydd natur y gwaith neu oherwydd cyfrifoldebau gofalu anghymesur.
Nid yw menywod yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yn y mannau lle gwneir penderfyniadau. Heb y lleisiau amrywiol o fewn yr ystafell, gall nifer o faterion gael eu hanwybyddu ac effaith penderfyniadau ar grwpiau ymylol gael eu hesgeuluso.
Mae menywod hefyd yn parhau i ddioddef o drais ac aflonyddu, sy’n effeithio ar bob agwedd o’u bywydau, gan gynnwys penderfyniadau ar beth i wisgo, lle i fynd, a sut i gyrraedd yno.
Mae mynd i’r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldeb rhywedd yn waith i bawb. Gyda llywodraeth leol yn chwarae rôl allweddol ym mywydau pobl o ddydd i ddydd, mae gan awdurdodau lleol nifer o offerynnau ar gael iddynt ar gyfer mynd i’r afael â’r anghyfartaledd strwythurol a brofir gan ferched.
Mae rhoi cyfartaledd rhywedd yng nghanol pob penderfyniad yn enghreifftiau o arfer dda wrth gynllunio polisïau. Bydd gwneud Cymru’n wlad gyda chyfartaledd rhywedd yn cymryd amser, ac felly rydym yn galw ar awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar y pum maes canlynol yn ystod y pum mlynedd nesaf er mwyn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau menywod yng Nghymru, a’n symud yn nes i’r cyfeiriad cywir o gael Cymru gyfartal o ran rhywedd.