Recriwtio mewn pandemig

17th September 2020

A yw’r pandemig wedi newid nid yn unig y ffordd yr ydym yn gweithio ond y ffordd yr ydym yn recriwtio am byth

Yn draddodiadol byddai’r tymor recriwtio yn cyrraedd ei anterth ym mis Medi, cyn tawelu a dechrau eto yn y Flwyddyn Newydd, ac roedd yn farchnad iach iawn i geiswyr gwaith cyn Covid-19. Am wn i, y cwestiwn y mae’n rhaid i ni ei ofyn yw a yw’r pandemig wedi newid nid yn unig y ffordd yr ydym yn gweithio ond y ffordd yr ydym yn recriwtio am byth? Fel person sy’n treulio ei hamser yn annog busnesau i ddeall a hyrwyddo opsiynau gweithio ystwyth, rwy’n credu fod gwaith dylunio swyddi mewn perthynas â’r opsiynau hynny wedi newid y farchnad recriwtio. A yw bellach yn fwy o farchnad i gyflogwr?

O ddechrau argyfwng Covid-19, mae busnesau wedi cael eu harwain gan fodelau busnes i amddiffyn eu pobl, ymateb i batrymau newydd o ran galw defnyddwyr, diogelu arian parod a chefnogi ein cymunedau lleol. Mae rhai o’r newidiadau gorau’n digwydd ar adegau argyfyngus ac rwy’n credu y bydd busnesau’n dechrau meddwl yn greadigol er mwyn denu talent.

Recriwtio blaengar, yn arbennig, fydd yr allwedd i lwyddiant sefydliadol yn y dyfodol. Gyda’r holl bethau sydd wedi gweddnewid ym myd busnes, mae gennym status quo newydd bellach. Felly sut mae recriwtio a chadw staff ysbrydoledig sy’n perfformio ar lefel uchel?

Beth yw marchnad sy’n cael ei gyrru gan ymgeiswyr?

Mae marchnad sy’n cael ei gyrru gan ymgeiswyr yn un lle mae’r ymgeiswyr wrth y llyw, lle gallant hawlio mwy na dim ond y cyflog gorau posibl. Mae ymgeiswyr yn aml yn derbyn nifer o gynigion am swyddi, yn ogystal â chael eu cyflogwyr presennol yn ceisio eu denu i aros. Nid cyflog yw’r unig beth sydd o bwys fan hyn, ond y pecyn cyfan. Mae gan ymgeiswyr gymaint o ddewis o rolau fel eu bod yn chwilio am gyflogau mwy cystadleuol, patrymau gweithio hyblyg, cymorth cryfach i astudio a chynllun datblygu gyrfa llawn. Os na all busnes gynnig yr hyn y mae ymgeisydd yn chwilio amdano, bydd yn ei golli yn y pen draw i gystadleuydd sy’n gallu cynnig y pethau hynny.

Denu’r ymgeiswyr gorau

O ystyried y newid yn y farchnad swyddi, prinder y rolau sydd ar gael a bod rhywfaint o dalent lefel uchel ar gael yn haws, dylai technegau denu fod yn uchel ar yr agenda ar gyfer unrhyw fusnes blaengar. Gallai ddod yn fwy o Farchnad i Gyflogwyr, gyda charfanau mwy o ymgeiswyr yn chwilio am waith. Sut y gall cwmnïau ddenu’r ymgeiswyr gorau a fydd yn ychwanegu gwerth ac yn symud eu sefydliad yn ei flaen? Mae dau faes arwyddocaol sy’n dod i’r meddwl wrth ddenu ymgeiswyr goddefol. Yn gyntaf, beth yw ethos y cwmni a beth sydd i’w weld ar-lein i gefnogi gwerthoedd a gweledigaeth y cwmni? Yn ail, pa mor gyflym y gall busnesau wneud penderfyniadau, gan ystyried a oes modd cyflawni rhagolygon cynnydd yn realistig?

Dylai busnesau ystyried dull cydgysylltiedig o ddenu talent. Mae’n bwysig bod cyflogwyr yn gwneud pob cam o’r broses recriwtio a chynefino mor syml ag y gallant. Mae nifer y camau cyfweld, cyflymder y broses a’r wybodaeth a roddir i’r ymgeisydd cyn y cyfweliad, yn dangos pa mor ddifrifol yw busnes ynglŷn â recriwtio. Mae llawer o ddarpar gyflogwyr yn colli ymgeiswyr oherwydd bod eu proses recriwtio’n cymryd gormod o amser ac yn digwydd mewn gormod o gamau; yn y cyfamser mae’r ymgeiswyr gorau yn cael cynnig rhywbeth gwell yn rhywle arall. Fy argymhelliad i yw gweithredu’n gyflym. Os ydych chi’n hoffi’r ymgeisydd yna symudwch yn gyflym! Nid yw hyn yn golygu taflu prosesau sgorio na sifftio o’r neilltu, mae’n golygu gwneud yn siŵr bod y broses yn cael ei symleiddio er mwyn osgoi gwastraffu amser, cyn i chi ddechrau.

Er mwyn i ymgeiswyr ddod o hyd i’ch busnes, gwnewch eich hun yn weladwy ar bob llwyfan - y mwyaf o wybodaeth ac adborth cadarnhaol gan staff presennol, gorau oll. Ystyriwch beth oedd eich cymhellion eich hunan dros ymuno â’r busnes; meddyliwch am yr hyn y byddech wedi’i wneud ar ôl darllen yr holl wybodaeth sydd ar gael ar-lein am eich busnes a defnyddiwch yr wybodaeth honno er eich mantais.

Pwysigrwydd gwerthu diwylliant, brand ac enw da er mwyn denu’r dalent orau

Rydym i gyd yn ymwybodol bod diwylliant, brand ac enw da yn hollbwysig er mwyn denu’r dalent orau yn y farchnad. Nid yw ymgeiswyr yn gwneud eu penderfyniadau ynglŷn â lle i weithio ar sail cyflog yn unig. Maen nhw’n ystyried y pecyn llawn ac mae’r broses o wneud penderfyniad yn dechrau o’r funud y mae’r ymgeisydd yn cysylltu â’r cyflogwr. Mae’n bwysig i’r ymgeisydd deimlo y bydd ganddo yrfa yn y dyfodol fel rhan o fusnes llwyddiannus. Mae’r cyfweliad yn un o’r prif ffactorau sy’n dylanwadu ar ymgeisydd. Nid mater i’r busnes yn unig yw asesu addasrwydd ymgeiswyr ar gyfer y rôl, mae hefyd yn gyfle i ymgeiswyr benderfynu a ydynt yn dymuno gweithio mewn cwmni ac mae’n bwysig bod diwylliant y cwmni’n cael ei esbonio’n llawn i’r ymgeisydd yn y cyfweliad, fel y gall wneud penderfyniad gwybodus. Yn amlach na pheidio, nid yw cyfwelwyr yn gwerthu eu busnes ddigon ac maen nhw’n disgwyl i’r ymgeisydd fod yn gyffrous am gyfle yn seiliedig ar ddarllen manyleb swydd ac ateb cwestiynau cyfweliad cyffredin. Peidiwch â gwneud y camgymeriad hwnnw, da chi.

Peidiwch ag anghofio y bydd y ffordd y mae eich busnes yn trin eich staff presennol nawr yn atgyfnerthu eich gwir frand fel cyflogwr. Os ydych yn eu trin yn iawn ac yn dangos cefnogaeth, mae straeon y gellir eu hadrodd a fydd yn rhoi mewnwelediad diwylliannol a fydd yn taro deuddeg gyda’ch gweithwyr a darpar ymgeiswyr.

Beth yw Cynnig Gwerth Cyflogwyr?

Drwy greu Cynnig Gwerth Cyflogwyr (EVP) gallwch ddynodi’r hyn sy’n greiddiol i ethos eich busnes, felly mae’n manylu ar bopeth sy’n eich gwneud yn ddeniadol i ymgeiswyr ac yn anhepgor i weithwyr – o hyblygrwydd wrth ddylunio swyddi i ethos a gwerthoedd y cwmni. Ym myd digidol 2020, ni fu cael y cynnig gwerth gweithwyr gorau erioed yn bwysicach. Efallai na fydd dulliau traddodiadol o recriwtio a chadw mor llwyddiannus mwyach, ac ni fu denu a chadw’r staff gorau erioed yn anos. Gyda phŵer adrodd straeon drwy fideo gallwch ddod â’ch gwerthoedd, eich gweledigaeth a’ch manteision yn y gweithle yn fyw mewn ffordd a fyddai’n amhosibl ar bapur. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio eich ased gorau, eich gweithwyr presennol.

Cadw’r ymgeisydd

Mae cadw staff yn ymwneud â sicrhau bod y cyflogai yn “hapus” ac mae llawer o ffactorau sy’n cadw ymgeisydd gyda’r un cyflogwr. Fel arfer, y prif reswm pam y mae pobl yn gadael eu rôl yw peidio â gallu gweld dyfodol yn y cwmni neu eu perthynas â’u rheolwr/tîm rheoli. Felly, mae’n bwysig bod y cyflogai’n credu bod y busnes yn ei gefnogi yn ei ddatblygiad gydag adolygiadau rheolaidd, cyfathrebu agored a gonest, a sicrhau bod unrhyw broblemau’n cael eu datrys cyn iddynt ddod yn broblemau mwy. Mae canmoliaeth am wneud gwaith da yn werthfawr, fel y mae cael cydymdeimlad: mae rheolwyr sydd â sgiliau o ran adborth effeithiol yn hollbwysig.

Gweithio Ystwyth

Allwn ni ddim gwadu bod busnesau wedi profi cryn aflonyddwch yn ystod y misoedd diwethaf, ac mae recriwtio’n faes sydd wedi teimlo’r effaith. Gyda llawer o fusnesau’n gorfod oedi’r broses recriwtio, mae heriau newydd wedi dod i’r amlwg o ran maint y gweithlu, adnoddau, a phwysigrwydd ystwythder. A oes hyd yn oed angen swyddfa mwyach ar rai busnesau?

Mae dull hyblyg o weithio a chydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith yn uchel ar restr y rhan fwyaf o gyflogeion. Mae hefyd yn denu gweithlu mwy amrywiol fel pobl â gwahanol ryw, oedran, crefydd, hil, ethnigrwydd, cefndir diwylliannol, cyfeiriadedd rhywiol, ieithoedd, addysg, galluoedd ac ati.

Gall sefydliad ystwyth sydd â hyblygrwydd o ran dylunio swyddi ehangu’r gronfa dalent yn sylweddol.

Awgrymiadau i gyflogwyr

  • Sicrhau bod yr ymgeisydd yn gweld brand cryf drwy gydol y broses recriwtio;
  • Dangos gwerthoedd da, ond nid dim ond hynny: dylid eu byw, eu teimlo a’u hanadlu;
  • Amlinellu cynlluniau ar gyfer y dyfodol;
  • Dathlu llwyddiant a hysbysebu hyn mor eang â phosibl. Mae’r cyfan yn helpu gyda’ch EVP;
  • Cynnig amgylchedd gwaith ysbrydoledig lle bydd ymgeiswyr yn cael eu mentora a’u meithrin gan feddyliau disglair ac arweinwyr sy’n canolbwyntio ar y diben;
  • Bod yn greadigol a sefyll ar wahân i’ch cystadleuwyr;
  • Cynnig arferion gwaith cynhwysol er mwyn annog diwylliant mwy amrywiol;
  • Gwerthfawrogi pobl am eu nodweddion unigryw a chaniatáu iddynt deimlo’n gyfforddus wrth rannu eu syniadau ac agweddau eraill ar eu hunain mewn modd gonest a dilys. Er ein bod yn clywed bod annog amrywiaeth a chynhwysiant yn hanfodol, rhaid i ni beidio ag anghofio mai “Perthyn” sy’n cyfrif. Mae’r teimlad hwnnw o “Berthyn” i fusnes yn beth grymus ac yn arf gwerthfawr i gadw gweithwyr.

I gael gwybod beth arall y gallwch ei wneud, beth am gysylltu â ni ynghylch ein Rhaglen Cenedl Hyblyg 2 lle rydym yn cefnogi cyflogwyr gyda Gweithdai Recriwtio Arferion Gorau, Gweminarau a chymorth 1:1. Cysylltwch â ni i gael gwybod am ymuno â’n rhaglen sydd wedi’i hariannu’n llawn, neu ein cymorth drwy Dîm Atebion Chwarae Teg.