Dyfarnu’r Swyddfa Eiddo Deallusol yn Gyflogwr Chwarae Teg

7th April 2020
Y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO), sef y sefydliad sy’n gyfrifol am bolisi eiddo deallusol y DU a rhoi patentau, nodau masnach a hawliau dylunio, yw’r sefydliad diweddaraf i gael ei gydnabod fel rhan o wasanaeth Cyflogwr Chwarae Teg, sefydliad Chwarae Teg.

Drwy ennill y wobr Arian, mae’r IPO wedi dangos ymrwymiad i gydraddoldeb rhywiol ac amrywiaeth, ynghyd ag ymroddiad clir i ymgysylltu â staff - gan geisio sicrhau cydraddoldeb canlyniad a chyfleoedd i bawb. Dyma’r eildro i’r IPO lwyddo i ennill statws Arian trwy’r cynllun Cyflogwr Chwarae Teg, ac mae ei gadw yn gyflawniad gwirioneddol.

Gyda’i bencadlys yng Nghasnewydd, ynghyd â safle yn Llundain, mae tua 45% o 1,300 o staff yr IPO yn fenywod. Ymgysylltodd y sefydliad â Chwarae Teg fel rhan o’i strategaeth i nodi rhwystrau wrth recriwtio, cadw a datblygu menywod o fewn ei weithlu. Ei nod yw gwella cynrychiolaeth menywod, yn enwedig yn ei rolau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) ac ar lefel uwch.

Mae’n anrhydedd i ni gael ein meincnodi’n arian yn y rhaglen ‘Cyflogwr Chwarae Teg’ sydd mor uchel ei barch.

“Rydym yn falch o'n hymrwymiad i fentrau sy'n cynnwys gweithio hyblyg, cefnogi teuluoedd sy'n gweithio, a datblygu cyfleoedd i fenywod mewn rolau STEM. Mae'r rhain i gyd yn cyfrannu at sicrhau chwarae teg i fenywod yng ngweithle IPO.

Dominic Houlihan
Cyfarwyddwr Pobl, Lleoedd a Gwasanaethau, IPO

Mae’r gwasanaeth Cyflogwr Chwarae Teg, sy’n cael ei redeg gan Chwarae Teg – prif elusen cydraddoldeb rhywiol Cymru, yn partneru â busnesau ar feysydd fel recriwtio, arferion gweithio modern, ymgysylltu â staff a chynhwysiant. Mae hefyd yn darparu cynllun gweithredu pwrpasol, cydnabyddiaeth fel Cyflogwr Chwarae TegTM a mynediad at ystod o adnoddau a digwyddiadau i’w gleientiaid.

Hoffai Chwarae Teg longyfarch yr IPO ar eu gwobr llwyr haeddiannol. Nod y gwasanaeth Cyflogwr Chwarae Teg yw helpu sefydliadau i wella cydraddoldeb ac amrywiaeth, mynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a sicrhau’r manteision a ddaw yn sgil gweithlu cytbwys.

“Mae cyflogwyr blaengar fel yr IPO am sicrhau bod eu sefydliadau’n darparu’r amgylchedd iawn er mwyn i bawb ffynnu. Gall ein gwasanaeth Cyflogwr Chwarae Teg wneud i hynny ddigwydd trwy roi llwybr clir tuag at lwyddiant i sefydliadau a busnesau.

Alison Dacey
Partner Cyflogwr Chwarae Teg, Chwarae Teg
Os hoffech wybod mwy am y rhaglen Cyflogwr Chwarae Teg, cysylltwch â [email protected] neu ewch i chwaraeteg.com/prosiectau/cyflogwr-chwarae-teg/