Noddwr Womenspire 2020 Target Group

22nd September 2020

Dywedwch wrthym am eich sefydliad

Cwmni ‘FinTech’ yw Target Group, sy’n ymwneud â threfnu prosesau busnes drwy gontractau allanol. Rydym wedi gweithio gyda rhai o’r prif frandiau gwasanaethau ariannol am dros 40 mlynedd ac yn creu gwerth trwy weithio gyda’n cleientiaid i drawsnewid eu taith fel cwsmer a’u gweithredoedd.

Pam rydych chi’n cefnogi’r gwobrau?

Yn Target, rydym yn angerddol am greu gweithle sydd ag amgylchedd cynhwysol. Hefyd, credwn yn gryf mewn dathlu llwyddiannau ac annog ein cydweithwyr i anelu at dargedau mawr - mae Womenspire yn dangos cymaint y gellir ei gyflawni gyda’r cyfleoedd, meddylfryd a’r anogaeth gywir, sy’n rhywbeth roedd yn rhaid i ni fod yn rhan ohono.

Pam mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn bwysig i chi?

Mae ein diwydiant yn enwog am fod yn ddiwydiant i ddynion yn bennaf, ac rydym am weld mwy o fenywod nid yn unig yn gweithio o fewn gwasanaethau ariannol a thechnoleg gwybodaeth yn gyffredinol, ond hefyd yn dringo’r ysgol gan ymgymryd â swyddi lefel uwch.

Pam rydych chi’n cefnogi gwaith Chwarae Teg?

Rydym wrth ein boddau gyda’ch ethos a’ch gweledigaeth ar gyfer menywod yng Nghymru a byddem yn falch o allu cyfrannu at greu Cymru sy’n arwain y ffordd trwy rymuso merched ar draws pob diwydiant.