Dywedwch wrthym am eich sefydliad
Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Mae’r sefydliad yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys cyrff llywodraethu chwaraeon ac awdurdodau lleol, i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon, annog arferion actif am oes, a darparu’r cymorth sydd ei angen ar ei athletwyr mwyaf addawol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.
Mae Chwaraeon Cymru hefyd yn dosbarthu grantiau gan y Loteri Genedlaethol er mwyn galluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu. Mae Cronfa Cymru Actif yn cefnogi prosiectau sy’n lleihau anghydraddoldeb, yn creu cynaliadwyedd hirdymor ac sy’n cyflwyno ffyrdd newydd neu wahanol o weithredu.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o wahanol sefydliadau sy’n darparu ac yn datblygu chwaraeon ledled Cymru er mwyn cyflawni’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru – sef cenedl egnïol lle mae pawb yn cael mwynhad o chwaraeon drwy gydol eu hoes. Rydym eisiau cyflwyno manteision chwaraeon i bawb yng Nghymru fel ein bod ni’n genedl iachach a mwy egnïol.
Pam rydych chi’n cefnogi’r gwobrau?
Rydym wrth ein boddau o gefnogi’r Gwobrau Womenspire eleni eto. Mae gan fodelau rôl ran bwysig i chwarae wrth ysbrydoli eraill i fod yn egnïol - mae Gwobrau Womenspire yn dathlu’r bobl hynny ac rydym am rannu eu straeon. Rydym yn byw bywydau cymhleth ac mae pob grŵp o bobl yn wynebu rhwystrau penodol sydd yn eu hatal rhag mwynhau gweithgarwch corfforol - dylid dathlu menywod mewn chwaraeon sy’n goresgyn y rhwystrau hynny a chlywed eu straeon er mwyn i ni, fel sector, ddysgu o’u profiadau.
Pam mae cydraddoldeb rhywedd yn bwysig i chi?
Ein nod yw cyflawni’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru o fod yn genedl egnïol lle mae pawb yn gallu mwynhau chwaraeon am oes. Wrth ddweud pawb, rydym yn cynnwys pawb! Rydym o’r farn y gall chwaraeon gyfrannu at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae ein Gweledigaeth yn dangos sut gall chwaraeon helpu i greu Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru iachach, Cymru sy’n fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynus, Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu a Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.
Pam rydych chi’n cefnogi gwaith Chwarae Teg?
Rydym yn gweithio gydag amrediad gwych o bartneriaid, gan gynnwys Chwarae Teg, sy’n rhannu ein gwerthoedd ac yn gallu ein cefnogi i gyflawni’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru. Mae ein hymchwil ddiweddaraf yn awgrymu bod anghydraddoldebau yn bodoli o hyd lle mae menywod yn llai egnïol nag eraill ac yn fwy tebygol o wynebu rhwystrau er mwyn gallu newid hyn. Gobeithiwn fod y modelau rôl benywaidd sy’n ymgysylltu â Chwarae Teg a’n partneriaid yn gallu ein helpu i ysbrydoli pobl i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a galluogi menywod a merched i fod yn egnïol.