I nodi’r hyn yr oeddem yn gobeithio’i gyflawni trwy’r GER, cytunwyd ar ddatganiad gweledigaeth gan Lywodraeth Cymru.
Ein gweledigaeth a rennir yw:
Mae cydraddoldeb rhywedd yng Nghymru yn golygu rhannu grym, adnoddau a dylanwad yn gyfartal rhwng pob menyw, dyn a pherson anneuol. Gweledigaeth lle mae’r llywodraeth yn anelu at greu amodau ar gyfer canlyniadau cyfartal i bawb.
Amcanion
Hoffem weld Cymru:
- Lle mae gan fenywod annibynniaeth economaidd sy’n gwerthfawrogi gwaith am dâl a gwaith heb dâl
- Lle mae cynrychiolaeth deg o fenywod amrywiol mewn swyddi o ddylanwad, gyda’r grym i gyfrannu’n ystyrlon at gymdeithas
- Lle mae pob menyw’n rhydd o wahaniaethu ac yn rhydd i fyw eu bywydau fel y mynnant
- Sy’n rhoi terfyn ar drais gan ddynion yn erbyn menywod
- Sy’n herio’r strwythurau grym sy’n rhoi menywod dan anfantais
- Lle mae menywod, dynion a phobl anneuol yn mwynhau cyfle cyfartal, amddiffyniad a chanlyniadau cyfartal
Gweithiwyd ar yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywedd dros ddau Gam. Roedd y cyntaf yn seiliedig ar archwilio’r sefyllfa bresennol o fewn Llywodraeth Cymru, gwerthuso’r hyn sy’n gweithio’n dda, a nodi heriau allweddol.
Mae’r ail Gam yn archwilio’r heriau hyn yn fwy manwl ac yn gwneud argymhellion manylach i Lywodraeth Cymru ar draws nifer o feysydd allweddol o wneud penderfyniadau.