Ers 23 Mawrth, mae rheoliadau’r cyfnod clo wedi cyfyngu symudiadau pawb yn y DU er mwyn atal y feirws Covid-19 rhag lledaenu. Mae’r argyfwng wedi effeithio ar bawb yng Nghymru mewn gwahanol ffyrdd.
Mae’r cyfnod clo wedi effeithio’n ddwys ar bob agwedd ar fywydau menywod, gan gynnwys eu hiechyd, eu cyflogaeth, a’u cyfrifoldebau gofalu am blant ac oedolion eraill. Mae llunio polisi sy’n ddall o ran rhywedd ac effaith sectoraidd mesurau’r cloi wedi golygu bod y cyfnod clo wedi effeithio ar fenywod a dynion mewn nifer o wahanol ffyrdd.
Mae effeithiau economaidd y cyfnod clo yn syrthio’n drwm ar fenywod. Mae menywod yn fwy tebygol o fod yn gwneud gwaith â chyflog isel ar gontractau ansicr mewn sectorau ‘cau i lawr’1 ac maent ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn weithwyr allweddol.2 Ledled y DU, mae menywod yn treulio dwywaith gymaint o amser â dynion ar addysgu plant gartref.
Ym mis Mai a mis Mehefin 2020, estynnodd Chwarae Teg wahoddiad i fenywod ledled Cymru gwblhau arolwg a manylu ar eu profiadau yn y cyfnod clo, ynghyd â’u hanghenion a’u gobeithion am adferiad. Ymatebodd dros 1000 o fenywod i’r arolwg hwn. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar brofiadau menywod yn y farchnad lafur yn sgil Covid.
Nid oes un profiad benywaidd unigol yn ystod y pandemig parhaus hwn. Mae statws cyflogaeth, cyfrifoldebau gofalu am blant ac oedolion, ynghyd â ffactorau fel ethnigrwydd, anabledd ac oedran wedi bod yn allweddol wrth lunio profiadau amrywiol menywod yn y cyfnod clo ac wrth symud tuag at adferiad.
Ymatebodd dros 1,000 o fenywod o bob rhan o Gymru i’n harolwg gan rannu eu profiadau amrywiol o’r pandemig. Gallwch ddarllen canfyddiadau ein hymchwil ddiweddaraf yma.