CHWILIO:
geiriau cymal
 

Gofal

Gofal Teulu

Trwy hyrwyddo datblygiad economaidd menywod yng Nghymru, mae cryn dipyn o waith Chwarae Teg yn canolbwyntio ar gael gwared â’r rhwystrau sy’n atal menywod rhag datblygu hyd eithaf eu gallu yn eu gyrfa.

Un o’r rhwystrau mwyaf arwyddocaol yw mai menywod yw’r mwyafrif sy’n dal i ofalu am blant ac oedolion dibynnol a hynny yn ddi-dâl. Golyga hyn y bydd menywod yn parhau i gael trafferth cael gwaith neu ei gadw oni bai bod darpariaeth gofal ddigonol, o safon dda y gellir ei fforddio ar gael. Mae’n bwysig cofio hefyd, unwaith y bydd menywod yn gweithio, bod cyflogwyr yn arddel arferion gweithio hyblyg ac yn ystyried materion gofal er mwyn galluogi’r bobl hynny i fod yn hapus yn eu gwaith ac i ddatblygu yr yrfa o’u dewis.

Yn ddiweddar rydym wedi cynnal gwaith ymchwil pwysig ar effaith economaidd gofal yng Nghymru. Mae copi o grynodeb gweithredol y gwaith ymchwil hwn ar gael trwy glicio ar y ddolen isod.

Dadlau o Blaid Gofal (Mawrth 2003)
I islwytho Crynodeb Gweithredol o’r gwaith ymchwil cliciwch yma

Gofal Plant

Mae Chwarae Teg wedi ymchwilio cryn dipyn i’r ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru, ac wedi llunio sawl cyhoeddiad sydd wedi ei anelu at gyflogwyr, gweithwyr a phobl sy’n dymuno dechrau busnes gofal plant. Gellir dadlwytho ein cyhoeddiadau mwyaf diweddar trwy glicio ar y dolenni isod neu trwy gysylltu â’n swyddfa genedlaethol. Rydym hefyd wedi bod yn ymwneud â phrosiectau peilot gofal plant, ac rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaethau gofal plant lleol er mwyn bwrw ymlaen â’r agenda gofal plant yng Nghymru.

Gofal i Oedolion/Pobl Ddibynnol

Mae Chwarae Teg wedi gweithio gyda sefydliadau partner i nodi ac archwilio materion sy’n ymwneud â’r rhwystrau sy’n atal y sawl sy’n gofalu am oedolion neu bobl ddibynnol oedrannus rhag cael gwaith. Mae’r cyhoeddiad Gofal Gwell Busnes Gwell yn tynnu sylw at rai o’r materion hyn ac yn edrych ar sut y gall cyflogwyr wella eu polisïau yn y gweithle ar gyfer gofalwyr. Rydym hefyd yn ymwneud â chynlluniau peilot sy’n cefnogi gofalwyr yn y gwaith.

Gofalwyr plant ag anableddau

Yn ei ddogfen ymchwil Dadlau o Blaid Gofal (Mawrth 2003), cydnabu Chwarae Teg y gallai’r materion ar gyfer gofalwyr plant anabl, y rhai sy’n gweithio a’r rhai nad ydynt yn gweithio, fod yn aml yn llawer mwy difrifol a bod angen rhoi mwy o ystyriaeth iddynt. Byddwn yn gweithio gyda chyflogwyr a sefydliadau partner i archwilio’r materion hyn a datblygu syniadau er mwyn mynd i’r afael â rhwystrau rhag gweithio.

Amdanom ni | Prif themau | Newyddion a digwyddiadau | Ymchwil | Aelodaeth | Swyddfeydd | Cysylltwch â ni | Map y wefan | Swyddi

Hafan | English

 

 


Canllawiau Gofal Plant i Gyflogwyr

Lansio Adnodd Newydd i Hyrwyddo Manteision Busnes Darpariaeth Gofal Plant.

Date: 01/11/2003
Location:

Cliciwch yma am fanylion pellach

Mae'n bleser gan Chwarae Teg gael ei anrhydeddu gan ddwy brif wobr

Gwobr Val Feld y Western Mail - am gyfraniad aruthrol i hyrwyddo rol menywod ym mywyd Cymru. Gwobr Flaenllaw Prowess - i gydnabod ein arferion a gwaith datblygu menter gyda menywod.

Date: 29/03/2005
Location:

Cliciwch yma am fanylion pellach

Beth Sy'n Newydd

Edrychwch ar ein calendr digwyddiadau i weld pa gyrsiau hyfforddi a gweithgareddau sydd ar y gweill. Ffoniwch yn rhad ac am ddim ar 0800 052 2255 i siarad ag aelod o'ch tîm lleol

 
Beth Sy'n Newydd

Ein nôd ni fel cwmni yw i adnabod, mesur a helpu i ddelio a’r mater o fwlch cyflog yng Nghymru ac i rannu modelau arfer da trwy gydol Cymru, Prydain ac Ewrop. Am mwy o fanylion cysylltwch a 01248 670111

Cliciwch yma am fanylion pellach

 
Beth Sy'n Newydd

Mae Grwp Cyllidebu ar Sail Rhyw Cymru yn lawnsio cyhoeddiad newydd, y bwriad yw tynnu i ffwrdd y 'stigma' sydd o gwmpas cyllideb rhyw.

Cliciwch yma am fanylion pellach

 
dylunio a lletya
WiSS Ltd 2005