Mae gwaith Chwarae Teg yn ymwneud â'r themâu
isod.
Addysg a sgiliau
Mae addysg a datblygu sgiliau yn cynnig
cyfle gwych i greu newid yng Nghymru. Trwy roi cyfle i
fenywod sydd wedi’u heithrio o fyd gwaith ddysgu
sgiliau newydd, chwarae rolau gwahanol a dringo ysgol gyrfa,
byddai rhan enfawr o’r boblogaeth yn weithgar yn
economi Cymru am y tro cyntaf.
Mae Chwarae Teg yn chwarae rhan weithgar
yn natblygiad Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd
a Mentrau Cymunedol yng Nghymru trwy sicrhau bod cydraddoldeb
yn parhau i fod ar frig yr agenda.
Os gall menywod weithio
ar yr un lefel gyfartal â dynion sy’n gydweithwyr
iddynt, yna mae’n hanfodol cynllunio polisïau
ac arferion gwaith er mwyn sicrhau bod cydbwyso cyfrifoldebau
gwaith a theulu mor rhwydd ag y bo modd.
Mae Chwarae Teg wedi ymrwymo i annog menywod
i ystyried dechrau eu busnes eu hunain drwy Fenter Menywod
Cymru a Menter Rhieni Sengl sy’n rhan o’r
prosiect Potentia.
Trwy hyrwyddo datblygiad economaidd menywod
yng Nghymru, mae cryn dipyn o waith Chwarae Teg yn canolbwyntio
ar gael gwared â’r rhwystrau sy’n atal
menywod rhag datblygu hyd eithaf eu gallu yn eu gyrfa.
Mae Chwarae Teg yn falch o fod wedi derbyn ail Wobr Prowess.
A ninnau’r darparwr Cefnogaeth Fusnes cyntaf o Gymru i ennill y wobr o fri, Gwobr Esiamplau Da Prowess, mae Chwarae Teg yn falch o gyhoeddi bod ein gwaith ym maes Menter Merched Cymru wedi cael cydnabyddiaeth bellach drwy gyfrwng Gwobr Integra Media Prowess 2006.
Date:28/02/2006
Location:
Mae'n bleser gan Chwarae Teg gael ei anrhydeddu gan ddwy brif wobr
Gwobr Val Feld y Western Mail - am gyfraniad aruthrol i hyrwyddo rol menywod ym mywyd Cymru. Gwobr Flaenllaw Prowess - i gydnabod ein arferion a gwaith datblygu menter gyda menywod.
Prosiect Cytgord - Ein nôd ni fel cwmni yw i adnabod, mesur a helpu i ddelio a’r mater o fwlch cyflog yng Nghymru ac i rannu modelau arfer da trwy gydol Cymru, Prydain ac Ewrop. Am mwy o fanylion cysylltwch a 01248 670111