Cyflogaeth
Os gall menywod weithio ar yr un lefel
gyfartal â dynion
sy’n gydweithwyr iddynt, yna mae’n hanfodol cynllunio
polisïau ac arferion gwaith er mwyn sicrhau bod cydbwyso
cyfrifoldebau gwaith a theulu mor rhwydd ag y bo modd.
Fel y prif sefydliad i hyrwyddo datblygiad economaidd menywod
yng Nghymru, mae sbarduno newid mewn polisïau gwaith
wastad wedi bod yn brif elfen yn ein cynllun busnes.
Yn
ystod y cyfnod hwnnw, rydym wedi mynd i’r afael â rhywfaint
o faterion allweddol -
- Cyflwyno trefniadau gweithio
hyblyg - yn enwedig yn y sector cyhoeddus.
- Cynyddu
darpariaeth gofal plant o safon y gellir ei fforddio
ac sydd ar gael yn rhwydd trwy godi ymwybyddiaeth
ynghylch anghenion a chynnig adnoddau a chyllid.
- Cynyddu
nifer y menywod a benodir i rolau lle gwneir penderfyniadau.
- Datblygu
polisïau
cyfle cyfartal gyda Busnesau Bach a Chanolig eu Maint
ar draws yr holl sectorau, gan dynnu
sylw at fanteision a hybu arferion gorau.
- Herio canfyddiadau
stereotypaidd ynghylch dewisiadau gyrfa a recriwtio a dethol.
- Hybu
a chefnogi menywod i ddechrau eu busnesau eu hunain trwy
brosiectau Menter Menywod Cymru a Menter Rhieni
Sengl.
Gwelwyd rhai newidiadau positif o ganlyniad i’r rhain
ond pery nifer o faterion y mae’n rhaid rhoi sylw iddynt.
Mae
Chwarae Teg yn parhau i ennyn newid trwy:
1. Weithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru ar
gynllun Cydbwyso Bywyd a Gwaith yn ogystal â phrosiect
peilot gyda sefydliadau mawr yn y sector cyhoeddus a’r
Gronfa Her ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig eu Maint.
2. Datblygu'r
cynllun Partneriaeth mewn Gwaith, i hyrwyddo gwella busnes
trwy ddenu gweithwyr i gyfranogi.
3. Codi ymwybyddiaeth ynghylch
materion allweddol gan gynnwys deddfwriaeth newydd - DU
ac Ewrop.
4. Datblygu argymhellion a wnaed gennym ni yn
yr Astudiaeth Cwmpasu Gofal a baratowyd ar gyfer y Cynulliad.
5.
Parhau â’r gwaith ar ddau brosiect Menter sy’n
rhan o’r Cynllun Gweithredu Entrepreneuriaeth.
Linciau Defnyddiol
Safle We Cydbwysedd Bywyd a Gwaith TUC Cymru
TUC
ACAS
Amdanom ni | Prif
themau | Newyddion
a digwyddiadau | Ymchwil | Aelodaeth | Swyddfeydd | Cysylltwch â ni | Map
y wefan | Swyddi
Hafan | English
|