Ymunwch â ni ar-lein ar gyfer trafodaethau panel, cyflwyniadau gan siaradwyr a sgyrsiau agored am gyllidebu ar sail rhywedd ar draws y pedair gwlad!
Bydd y gynhadledd ar-lein hon yn cael ei chynnal dros ddau brynhawn ym mis Mai, a bydd partneriaid yn rhannu’r gwersi a ddysgwyd o gyllidebu ar sail rhywedd yng Nghymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Bydd yn archwilio’r hyn sydd wedi gweithio’n dda o ran cydweithrediad rhwng y pedair gwlad gan edrych ar ffyrdd o gydweithio i ddod ag economi ofalgar, werdd i’r DU. Bydd hefyd cyfle i fynychwyr gymryd rhan mewn sgwrs sesiwn agored i drafod sut y gall actifiaeth ac ymchwil greu newid ar lefel polisi.
Am fwy o wybodaeth ac i archebu’ch lle: