Holi’r ymgeiswyr : Hyrwyddo Cydraddoldeb Rhywedd yng Nghymru

21st April 2021

Cyn etholiadau’r Senedd ar 6 Mai 2021, mae Chwarae Teg yn eich gwahodd i’w digwyddiad ‘holi’r ymgeiswyr’.

Dyma fydd eich cyfle i ofyn i ymgeiswyr o’r prif bleidiau gwleidyddol, sut y byddan nhw’n sicrhau cydraddoldeb rhywedd yng Nghymru os cânt eu hethol. Bydd cynrychiolwyr o Lafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Sarah Murphy – Ymgeisydd Llafur Cymru ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr

Sarah Murphy yw ymgeisydd Llafur Cymru ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n byw yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr gyda’i phartner ac mae ganddi wreiddiau teuluol cryf yno. Mae gan Sarah radd Meistr mewn Cyfryngau Digidol o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, ac mae bellach yn gweithio fel Cynghorydd Polisi ac Ymchwil gan helpu i wneud gweithleoedd yn fwy diogel a theg. Yn ystod ei gyrfa mae hi wedi gweithio yn y Senedd a Senedd y DU yn San Steffan, yn ogystal â Seoul, De Korea fel athro ac yn Llundain i gwmni datblygu byd-eang. Mae gan Sarah brofiad fel Ymddiriedolwr ar gyfer canolfan gyffuriau ac adsefydlu leol, ac mae wedi bod yn Gadeirydd y Bwrdd ar gyfer elusen amgylcheddol sydd wedi’i lleoli ym Mhorthcawl. Yn ei hamser hamdden, mae Sarah’n aelod o’i grwpiau casglu sbwriel lleol, ac mae’n dwlu ar gerddoriaeth fyw a bwyd da gyda’i ffrindiau a’i theulu, a mynd â’i chi, Ruby, am dro.

Natasha Asgar - Ymgeisydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer De Ddwyrain Cymru

Natasha Asgar yw ymgeisydd rhanbarthol y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer De Ddwyrain Cymru. Cafodd Natasha ei geni a’i magu yng Nghasnewydd, Gwent. Aeth i Ysgol Rougemont yng Nghasnewydd cyn mynd i Brifysgol Llundain i astudio ar gyfer BA mewn Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymdeithasol. Dilynwyd hyn gan radd Meistr mewn Gwleidyddiaeth a Chyfryngau Prydeinig Cyfoes.

Ar ôl cwblhau ei MA, daeth Natasha yn Fancer yn Llundain ac mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o sefydliadau ariannol, manwerthu a gwleidyddol, gan gynnwys Tŷ’r Cyffredin, Senedd Ewrop a Senedd Cymru mewn amrywiaeth o swyddi.

Ar ôl ychydig flynyddoedd penderfynodd ddilyn gyrfa yn y cyfryngau ac mae wedi cyflwyno ei sioe Radio lwyddiannus ei hun, mae wedi ysgrifennu ar gyfer cylchgronau ac mae wedi cyhoeddi dau lyfr.

Daeth Natasha yn wyneb adnabyddus ar QVC UK ac yn ddiweddar mae wedi dechrau gweithio i gwmni cysylltiadau cyhoeddus. Fel pennaeth partneriaethau teledu llywodraeth y DU, mae’n cynhyrchu hysbysebion ar ran y llywodraeth ar gyfer dros ugain o rwydweithiau mewn gwahanol ieithoedd er mwyn sicrhau bod pobl o’r lleiafrifoedd ethnig yn deall negeseuon llywodraeth y DU mewn perthynas â’r pandemig.

Chloe Hutchinson - Ymgeisydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar gyfer De Orllewin Cymru

Chloe Hutchinson yw ymgeisydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar gyfer De Orllewin Cymru. Mae Chloe yn byw yn Uplands, mae hi wedi gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ac mae’n gwirfoddoli gyda Cymorth i Fenywod Abertawe. Symudodd i Gymru yn 2014 i astudio ym Mhrifysgol Abertawe ac mae bellach yn falch o alw’r lle’n gartref iddi.

Mae gan Chloe radd mewn Hanes a Gwleidyddiaeth a gweithiodd yn ei Hundeb Myfyrwyr i gynyddu cymorth iechyd meddwl, lleihau rhwystrau mewn Addysg Uwch a chreu profiad academaidd mwy cynhwysol. Mae’n frwd dros yr amgylchedd, addysg a hawliau dynol, ar ôl gwirfoddoli gyda Save the Children, Girlguiding, ac Amnesty International.

Heledd Fychan – Ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Canol De Cymru

Heledd yw ymgeisydd Plaid Cymru ym Mhontypridd ac mae’n sefyll ar gyfer Rhestr Ranbarthol Canol De Cymru. Ers 2017, mae wedi cynrychioli Tref Pontypridd ar Gyngor RhCT a Chyngor Tref Pontypridd. Mae’n gweithio fel Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus Amgueddfa Cymru, ac mae ar Fwrdd Cymdeithas Amgueddfeydd y DU lle mae’n gwasanaethu fel Cadeirydd Pwyllgor y Cenhedloedd.

Mae croeso i chi gyflwyno cwestiynau cyn y digwyddiad gan ddefnyddio’r ffurflen google hon.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyffredinol am y digwyddiad, mae croeso i chi anfon e-bost at ein Partner Polisi a Chyfathrebu, Chisomo Phiri [email protected]