LeadHerShip Live: ‘Merched yn arwain Trafnidiaeth’

19th May 2021

LeadHerShip Live: ‘Merched yn arwain Trafnidiaeth’

Er gwaethaf y cynnydd, mae menywod yn dal i gael eu tangynrychioli mewn swyddi o bŵer ac arweinyddiaeth yn y Llywodraeth, Busnes a bywyd cyhoeddus. Nod ein rhaglen LeadHerShip yw sicrhau bod menywod yn cael eu cynrychioli’n well mewn rolau gwneud penderfyniadau o’r fath a rhoi platfform i fenywod fel bod eu lleisiau’n cael eu clywed, a’u bod yn cael eu hysbrydoli i weld eu hunain fel arweinwyr y dyfodol.

Ymunwch â ni ar gyfer LeadHerShip Live lle byddwch yn clywed gan 3 menyw ysbrydoledig sydd i gyd yn arwain y ffordd yn y sector trafnidiaeth yng Nghymru a darganfod sut y gwnaethon nhw gyrraedd eu dewis yrfaoedd. Bydd y digwyddiad ar-lein hwn yn cynnwys sgyrsiau gyrfaoedd, trafodaethau panel ar arweinyddiaeth a chydraddoldeb rhywedd yn y sector, ynghyd â chwestiynau oddi wrth y gynulleidfa.

Ymhlith y siaradwyr mae:
Loraine Martin OBE, Cyfarwyddwr Amrywiaeth a Chynhwysiant, Network Rail

Loraine yw Cyfarwyddwr Amrywiaeth a Chynhwysiant Network Rail, sy’n cynnal ac yn datblygu seilwaith rheilffyrdd Prydain. Gyda thua 42,000 o weithwyr, dyma’r rheilffordd sy’n tyfu gyflymaf yn Ewrop. Mae Loraine yn arwain canolfan arbenigedd sy’n cefnogi uchelgais Network Rail i fod yn fusnes mwy agored, amrywiol a chynhwysol.

Cyn hyn, bu Loraine yn arwain tîm a enillodd sawl gwobr, yn cyflwyno rhaglen cydraddoldeb a chynhwysiant a chyflogaeth a sgiliau wrth adeiladu seilwaith, lleoliadau a chyfleusterau ar y Parc Olympaidd yn Llundain 2012. Dyfarnwyd MBE i Loraine am y gwaith hwn. Mae Loraine yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.

Fel is-gadeirydd Trust for London, corff dyfarnu grantiau sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a thlodi yn y brifddinas, cadeiriodd Loraine y gweithgor a ariannodd ymgyrch Cyflog Byw Llundain. Ym mis Hydref 2019 cyhoeddodd Inclusive Boards a’r Financial Times fod Loraine wedi’i chynnwys yng 100 uchaf y merched sy’n dylanwadu ar beirianneg yn y DU. Ym mis Tachwedd 2019, dyfarnwyd Gwobr Mike Nichols (Cymdeithas Rheoli Prosiectau, APM) i Loraine sy’n cydnabod cyfraniadau i newid trawsnewidiol ar gyfer y byd a’r gymdeithas. Ac yn rhestr anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines 2020, dyfarnwyd OBE i Loraine am ei gwaith ar amrywiaeth a chynhwysiant yn Network Rail.

Christine Boston, Cyfarwyddwr, Sustrans Cymru

Mae Christine wedi ymuno â Sustrans Cymru yn ddiweddaar i arwain eu gwaith yng Nghymru ar deithio egnïol a thrafnidiaeth gynaliadwy. Gyda chefndir mewn cydraddoldeb a chynhwysiant, mae Christine wedi treulio blynyddoedd lawer yn hyrwyddo trafnidiaeth hygyrch a chynhwysol, gan weithio gyda llunwyr polisi i godi ymwybyddiaeth o’r heriau sy’n wynebu grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol a chynghori ar ymyriadau sy’n chwalu rhwystrau.

Yn Gadeirydd clymblaid Transform Cymru, mae Christine wedi bod yn arwain ar waith i hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy a chynhwysol i bawb ac yn cefnogi Llywodraeth Cymru i ddefnyddio arbenigedd o ran datblygiad Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Yn gyn Gyfarwyddwr y Gymdeithas Cludiant Cymunedol yng Nghymru, fe sicrhaodd Christine y prosiect Cysylltu Cymunedau yng Nghymru gwerth £2.5m, a gododd £2m ar gyfer prosiectau trafnidiaeth lleol ledled Cymru wedi hynny. Bu Christine yn Is-gadeirydd Ramblers GB ac roedd yn rownd derfynol y categori Menyw mewn Trafnidiaeth yng Ngwobrau Trafnidiaeth Cymru 2019.

Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr, Traveline Cymru

Ymunodd Jo â PTI Cymru yn 2004 fel Cynorthwyydd Marchnata a dydy hi ddim wedi gadael! Gweithiodd ei ffordd i fyny trwy’r Tîm Marchnata i fod yn Rheolwr Marchnata ac ers hynny mae wedi cael dyrchafiad i fod yn Rheolwr Gyfarwyddwr, gan gymryd mwy o drosolwg strategol ar draws rhedeg y busnes.

Mae Jo bob amser wedi cael ei ystyried yn ‘hyrwyddwr cwsmeriaid’ y busnes ac mae bob amser yn ceisio ystyried safbwynt y cwsmer wrth wneud unrhyw benderfyniadau, datblygiadau ac ymgyrchoedd. Mae hi’n ceisio ymgorffori’r ffocws cwsmer hwn ar draws y busnes.

Mae Jo yn fam i efeilliaid saith oed, sy’n ei chadw’n brysur iawn! Ond mae ei diddordebau yn yr ychydig amser hamdden sydd ganddi yn cynnwys gwyliau dramor ac yn y DU pan fyddwn ni’n cael gwneud hynny, coginio ryseitiau iach a diwrnodau allan gyda’i phlant.

Mae Jo hefyd yn Gadeirydd Ymddiriedolwyr yr elusen profedigaeth plant, 2 Wish Upon a Star sydd wedi’i lleoli yn Ne Cymru sy’n darparu cefnogaeth i deuluoedd ledled Cymru sy’n colli plant yn sydyn. Mae’r rôl hon yn rhoi llawer o foddhad iddi.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:

Emma Tamplin, Rheolwr Cydweithio: [email protected]