Rydym yn chwilio am Gydlynydd Codi Arian i ymuno â’n tîm codi arian sy’n cynyddu o ran maint i helpu sefydlu, cynnal a chynyddu ein hincwm o weithgareddau codi arian.
Yn y rôl gyffrous newydd hon, byddwch yn defnyddio’ch ysgogiad, brwdfrydedd a sgiliau rhagorol gyda phobl i ennill a rheoli unigolion a grwpiau sy’n codi arian trwy fagu cydberthnasau rhagorol, datblygu teithiau effeithiol i gefnogwyr, ac archwilio a gweithredu cyfleoedd newydd fel datblygu digwyddiadau codi arian yn rhithwir.
Rydym yn chwilio am chwaraewr tîm cymhellol â sgiliau cyfathrebu rhagorol sy’n ymfalchïo mewn cyflawni dangosyddion perfformiad allweddol a thargedau ac yn cymryd cyfrifoldeb personol dros wneud hynny. Bydd angen i chi allu hunanreoli’ch amser a gweithio’n arloesol i gyflawni’ch targedau. Os yw hyn yn apelio atoch, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Eich Diogelwch
Mae’r rôl hon yn y cartref, ac rydym yn darparu gliniadur cwmni a ffôn symudol ar eich cyfer. Mewn amgylchiadau arferol, mae’r rôl yn cynnwys treulio cyfran sylweddol o amser yn gweithio yn y gymuned. Fodd bynnag, mae’r rôl yn cael ei chyflawni ar hyn o bryd gyda mesurau diogelwch COVID-19 ar waith. Rydym felly yn disgwyl i’r rôl gael ei chyflawni’n bennaf trwy fideo-gynadledda a dulliau cyfathrebu rhithwir eraill. Bydd Chwarae Teg yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac asesu’r effaith ar ein gwasanaeth yn unol â hynny.
Ein Hymrwymiad
Rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein tîm ac felly’n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr o gefndiroedd du, Asiaidd
neu leiafrifoedd ethnig eraill a phobl ag anabledd sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.
Buddion i Weithwyr
Rydym yn annog ein gweithwyr i gymryd mantais o’r ystod wych o fuddion a gynigwyd gennym:
- Gweithio ystwyth i gefnogi cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith
- Gwyliau blynyddol hael (40 diwrnod y flwyddyn yn seiliedig ar weithio wythnos waith o bum diwrnod)
- Cymorth dysgu a datblygu
- Pensiwn cyflogwr o 7%
- Cynllun Arian Westfield Health
- Absenoldeb uwch am resymau teuluol
Lleoliad: Gweithio gartref
Cyflog: £24,810 pro rata
Oriau gwaith: 28 Awr yr wythnos (Rhaid cael hyblygrwydd i ddiwallu anghenion)
Contract: Penodiad am gyfnod penodol o 12 mis
Dyddiad Cau: 9:00am, 31st Mawrth 2021
Mae Chwarae Teg yn gweithredu proses gaeth ddienw ar gyfer pob swydd wag. Caiff data adnabod personol ei dynnu o ffurflenni cais cyn i’r panel recriwtio lunio rhestr fer. Felly ni ellir derbyn CV, na dogfennau eraill sy’n darparu data adnabod personol, naill ai yn lle ffurflen gais wedi’i chwblhau, neu fel dogfen ategol iddi.
Os yw’r cyfle hwn yn eich cyffroi, a’ch bod yn credu y gallech wneud cyfraniad cadarnhaol i’n sefydliad cwblhewch bob
rhan o’r ffurflen gais a’i hafnon at: [email protected]
(nodwch y cyfeirnod swydd yn yr e-bost: FC170221 )