Ar hyn o bryd, mae gennym swydd wag ar gyfer Partner Hyfforddi a Mentora i ymuno â’n Tîm Masnachol.
Dyma gyfnod cyffrous i ymuno â Chwarae Teg, wrth i ni symud tuag at fodel ariannu sy’n fwy cynaliadwy ac amrywiol. Wedi’i hariannu drwy Gronfa Gwydnwch y Trydydd Sector am 12 mis, bydd y rôl Partner Hyfforddi a Mentora hon yn gweithio gyda’n Tîm Masnachol i ddatblygu cynnig gwasanaeth newydd fel rhan o’n cynhyrchion Cyflogwr Chwarae Teg.
Mae Cyflogwr Chwarae Teg yn galluogi’r defnydd o flynyddoedd o arbenigedd a gwybodaeth Chwarae Teg i ymestyn ein cymorth i sefydliadau ac unigolion ledled y DU, gan ymgorffori cydraddoldeb rhywedd mewn polisi a phrosesau a chan sefydlu amgylcheddau gwaith sy’n wirioneddol gynhwysol wrth greu timau arwain wedi’u hysgogi gan gydraddoldeb ar yr un pryd.
Os ydych yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd cydweithiol, deinamig a chyflym, ac yn mwynhau gweithio gyda chydweithwyr brwdfrydig a chefnogol i helpu pobl i gyflawni eu potensial llawn, dyma’r rôl i chi.
Eich Diogelwch
Mae’r holl rolau o fewn Chwarae Teg ar sail gweithio gartref ac yn cael eu cefnogi drwy ddarpariaeth gliniadur a ffôn symudol y cwmni i’w defnyddio at ddibenion gwaith. Mae ein gwaith yn cael ei gyflawni gyda mesurau diogelwch covid-19 ar waith ar hyn o bryd, felly, rydym yn disgwyl i’r rôl hon gael ei chyflawni’n bennaf drwy fideo-gynadledda a dulliau cyfathrebu rhithiol eraill ar hyn o bryd. Bydd Chwarae Teg yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac yn asesu’r effaith ar ein darpariaeth gwasanaeth yn unol â hynny.
Ein Hymrwymiad
Rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein gweithlu ac felly’n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill, yn ogystal â phobl anabl, sy’n cwrdd â’r meini prawf swydd hanfodol ac yn dewis ymgeisio trwy ein cynllun cyfweldiad gwarantedig.
Buddion Gweithwyr
Rydym yn annog ein gweithwyr i fanteisio ar yr ystod eang o fuddion a gynigir gennym:
- Gweithio Ystwyth i gefnogi cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith
- Gwyliau blynyddol hael (40 diwrnod y flwyddyn yn seiliedig ar wythnos waith 5 diwrnod)
- Cymorth Dysgu a Datblygu
- Pensiwn cyflogwr 7%
- Buddion Westfield Health
- Absenoldeb teuluol gwell
Mae’r rôl
Cyflog: £30,658 pro rata
Oriau gwaith: 28 Awr yr wythnos (rhaid bod yn hyblyg i ddiwallu anghenion cleientiaid)
Hyblygrwydd: Cynigir y rôl hon yn rhan amser, gyda hyblygrwydd oherwydd ein model gweithio ystwyth. Bydd oriau cyddwys neu gyfran swydd yn cael eu hystyried. Mae croeso i secondiadau gan ymgeiswyr mewnol ac allanol.
Lleoliad: Yn y cartref
Contract: Parhaol
Dyddiad cau: 9am ar 1af Gorffennaf 2021
Os yw’r cyfle hwn yn eich cyffroi, a’ch bod yn credu y gallech wneud cyfraniad cadarnhaol i’n sefydliad cwblhewch bob rhan o’r ffurflen gais a’i hafnon at: [email protected] (nodwch y cyfeirnod swydd yn yr e-bost: CMP100621)
Oherwydd ein proses rhestr fer Dienw ni allwn dderbyn CVs naill ai yn lle, neu yn ychwanegol at, ffurflen gais am swydd wedi’i chwblhau. Bydd ffurflenni cais yn cael eu sgorio gan ein panel recriwtio ac yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwch yn adran ‘Y Rôl a Chi’ ar y ffurflen Gais. Er mwyn i’ch cais fod yn llwyddiannus, cysylltwch eich ymateb â’r meini prawf hanfodol a dymunol a geir yn y disgrifiad swydd a manyleb yr unigolyn ar gyfer y rôl, gan ddarparu enghreifftiau lle bo hynny’n bosibl.
Rydym yn cynnig adborth i bob ymgeisydd, wrth wneud cais am swydd ac ar ôl cyfweliad.