Ar ôl cyflawni cwrs Cenedl Hyblyg, cafodd Andrea’r hyder i ddal ati ac i wireddu ei breuddwyd o raddio yn y gyfraith. Yn ystod ei hastudiaethau, cafodd ei gwobrwyo am ei chyfraniad rhagorol ac mae ar fin cwblhau cwrs gradd MA mewn Cyfraith Gymhwysol a Throseddeg. Yn ogystal, daeth hefyd o hyd i amser i redeg y Clwb Cyfeillgarwch i fenywod ag anableddau.
Bydd 2019 yn flwyddyn arbennig i mi, am weddill fy mywyd. Roeddwn i wedi bod yn fyfyriwr aeddfed yn astudio’n llawn-amser ym Mhrifysgol Abertawe am y pedair blynedd flaenorol. Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed a dod yn fam, yn 49 mlwydd oed cofrestrais i astudio am radd LLB y Gyfraith.
Dyna oedd fy mreuddwyd, ond roeddwn i’n credu ers amser maith mai breuddwyd yn unig fyddai hi; allwn i ddim ailddechrau astudio ar ôl 33 mlynedd, allwn i? – Pam lai? – does dim pen draw i wireddu eich breuddwydion! Ym mis Gorffennaf 2018 graddiais gyda gradd (Anrh) 2.1 yn y Gyfraith a fi yw’r fenyw falchaf ar wyneb y ddaear.
Ym mis Ebrill 2019 cefais e-bost yn datgan fy mod wedi cael fy enwebu am wobr Womenspire, ac roeddwn yn meddwl mai jôc oedd y neges i ddechrau. Roeddwn i wedi bod yn dilyn y gwobrau ers tair blynedd, ac wedi darllen straeon pob enillydd blaenorol. Freuddwyais i erioed y byddwn i’n rhan o’r gwobrau, er i mi ddymuno hynny droeon.
Mae Chwarae Teg yn sefydliad unigryw ac arbennig iawn, ac mae’n agos iawn at fy nghalon. Y sefydliad hwn a’r cyfleoedd gwych mae’n eu cynnig i ferched, a roddodd fi ar ben y ffordd gyda fy siwrne ddysgu, ac a wnaeth i mi gredu y gallwn i gyflawni mwy. Rhoddodd y cwrs Arwain a Rheoli i ferched, Cenedl Hyblyg gyfle i mi werthuso fy rôl yn y gweithle a thrwy gynllunio datblygiad gyrfa, ailsbardunodd fy mreuddwyd i astudio’r gyfraith.
Ar 4 Gorffennaf, 2019 roeddwn i’n paratoi at y Gwobrau Womenspire oedd yn cael eu cynnal yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan. Roeddwn i’n ofnadwy o nerfus a ddim yn meiddio credu y gallwn ennill y wobr. Gwyddwn fod bod yn rhan o’r achlysur arbennig hwn, yn dathlu llwyddiannau anhygoel merched o wahanol gefndiroedd, yn fraint ynddo’i hun. Roeddwn i wedi dweud wrth y byd a’r betws fy mod wedi cael fy enwebu, ac wedi darllen straeon y tair merch anhygoel arall oedd wedi cyrraedd rhestr fer fy nghategori dysgwr i. Roedd tipyn o gystadleuaeth, byddai unrhyw un ohonynt yn enillydd haeddianol iawn. Doeddwn i ddim yn deall sut bod astudio’r gyfraith, pwnc roeddwn i’n ei garu ac wrth fy modd yn ei astudio, yn cymharu â’u llwyddiannau nhw. Serch hynny, roeddwn i’n edrych ymlaen yn arw at fynd i’r seremoni a mwynhau pob eiliad o fod yn rhan o’r digwyddiad anhygoel hwn.