#CamauIGydraddoldebRhywedd

25th June 2021
Mae elusen cydraddoldeb rhywedd blaenlaw Cymru’n galw ar bobl i roi eu troed orau ymlaen a chymryd camau tuag at gyflawni cenedl decach i bawb.

Mae Chwarae Teg yn lansio her codi arian ym mis Gorffennaf - #CamauIGydraddoldebRhywedd, a fydd yn cefnogi ei gwaith tuag at Gymru fwy cyfartal lle gall pob menyw gyflawni a ffynnu.

Mae cofrestru i ymuno â’r her, sy’n dechrau ar 1 Gorffennaf, bellach ar agor yn https://bit.ly/StepsToGenderEquality, gyda cofrestriad ar gael o £10.

Ym 1968 cerddodd peirianwyr gwnïo Dagenham allan am gyflog cyfartal ac mae #CamauIGydraddoldebRhywedd yn golygu y gallwn gyda'n gilydd gerdded tuag at gau'r bwlch cyflog ar sail rhywedd am byth hefyd.

“Roeddem am i’r her fod yn hwyl, ac nid yn unig o fudd i gydraddoldeb rhywedd, ond hefyd iechyd a lles cyfranogwyr.

“Rwy’n annog unrhyw un i ymuno fel y mae wedi’i gynllunio i fod yn hygyrch i bob oedran a gallu, a gall pobl ddewis targed neu osod eu targed eu hunain. Bydd hynny yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r gwaith gwerthfawr rydyn ni'n ei wneud.

Claire Foster
Rheolwr Codi Arian a Grantiau, Chwarae Teg
Oes gennych chi unrhyw gwestiynau? E-bostiwch Claire, Yasmin a Sarah yn [email protected]