Roeddwn yn hapus ac yn falch iawn o gael fy nethol gan Chwarae Teg i weithio gyda nhw i ddarganfod mwy am brofiadau menywod o dlodi ac i ddatblygu datrysiadau posib. Rydw i wedi treulio fy holl fywyd gwaith bron yn ymladd dros gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ac mewn gwirionedd, fi oedd un o sefydlwyr Chwarae Teg , felly roedd hwn yn bwnc agos at fy nghalon.
Yn Sefydliad Bevan mae gennym hanes hir o amlygu sut mae tlodi yn difetha bywydau pobl. Yn anffodus, gydag ond ychydig adnoddau, mae’r hyn y gallwn ei ddweud fel arfer yn cael ei gyfyngu gan yr ystadegau sydd ar gael ar dlodi. Ar gyfer grwpiau o fewn y boblogaeth, ar wahân i’r categorïau eang sef plant, oedran gweithio a phensiynwyr, mae’r ystadegau yn dweud bron ddim wrthym. Roedd y cyfle i wrando ar brofiadau menywod ac i feddwl am sut mae hynny’n cydfynd â’r dulliau confensiynol, yn un i fanteisio arno heb amheuaeth.
Roedd yna ychydig o bethau i’n hatgoffa, a rhai pethau annisgwyl drwy gydol proses y gwaith hwn.
Ymhlith y rhain roedd pa mor uchel yw risg tlodi i fenywod. Dydw i ddim yn golygu’r risg ystadegol wrth hynny, sydd ond ychydig bach yn uwch i fenywod nag i ddynion. Rydw i’n golygu’r ‘bygythiad go iawn’ sy’n dod o beidio â chael digon o incwm o waith er mwyn osgoi tlodi, sydd felly’n golygu bod yn rhaid dibynnu ar bartner i gael dau ben llinyn ynghyd. Mae cadw to uwch eich pen yn golygu cynnal perthynas. A phan fydd perthynas yn chwalu, mae menywod yn wynebu argyfwng. Nawr, fel yn y gorffennol, mae cael swydd sy’n talu cyflog digonol yn hanfodol er mwyn amddiffyn menywod rhag tlodi yn uniongyrchol ac yn yr hirdymor. Mae cael swydd sy’n talu cyflog digonol yn golygu cael gofal plant dibynadwy, o ansawdd da ar gyfer pob oedran.
Y pethau annisgwyl? Un oedd faint mae pob ceiniog yn cyfri. Roedd y menywod y gwnaethom eu holi yn gwybod yn union faint oedd ganddynt i wario ar bob nwydd hanfodol, ond gallai cost annisgwyl amharu’n fawr arnynt. Roedd gwisg ysgol, trip mewn tacsi i’r ysbyty, oergell yn torri neu gostau angladd i gyd yn bethau y bu’n rhaid i’r menywod dalu amdanynt o gyllideb fach iawn. A phan aeth pethau’n anodd iawn, roedd menywod yn mynd heb bethau. I rai, roedd hynny’n golygu peidio â mynd i’r siop trin gwallt neu gael cinio allan. Roedd eraill yn mynd heb fwyd, gwres ac yn cerdded i’r gwaith oherwydd nad oeddent yn gallu fforddio tocyn bws. A’r plant, bob amser, oedd y flaenoriaeth.
Peth annisgwyl arall oedd bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ddim mor sylweddol ar gyfer y menywod ar y cyflogau isaf. Mae cau’r bwlch yn fantra i ffeminyddion ym mhobman, ond byddai’r 10 y cant o fenywod sy’n ennill y cyflogau isaf yn elwa ar 29c yr awr yn unig pe baent yn cael yr un cyflog â dynion.. Byddai menywod â chyflog isel yn gallu elwa ar lawer mwy - £1 yr awr - pe baent yn ennill y cyflog byw gwirioneddol o £9.20 yr awr. Mae hyn yn dangos bod deall profiadau menywod unigol yn hanfodol i wybod pa ymyriadau sydd eu hangen i wella’u sefyllfa.
Mae hyn i gyd a llawer mwy yn yr adroddiad. Nid yw’r adroddiad, dwi’n gobeithio, yn ddadansoddiad sych sy’n cynnwys ychydig o ddyfyniadau ac argymhellion cyflym er mwyn dod i gasgliad. Rydw i’n gobeithio ei fod yn adlewyrchiad cywir o fywydau dyddiol miloedd o fenywod sy’n ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Menywod sy’n mynd heb bethau er lles eu plant. Menywod sydd heb lawer o obaith i ddianc rhag tlodi oni bai bod newid llwyr yn y gymdeithas.
Rydw i’n gobeithio y bydd ein canfyddiadau yn arwain at gamau gweithredu: mae cyflog byw gwirioneddol i bawb, cytundeb newydd ar gyfer gofal plant, budd-daliadau digonol a buddsoddiad mewn dysgu i oedolion i gyd yn bosibl. Nawr yw’r amser i weithredu.