Mae menywod ifanc ar draws y genedl yn cael ei wahodd i wneud cais am y cyfle i gael persbectif unigryw o ddyletswyddau dydd i ddydd AS, a phrofi sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru.
Mae’r rhaglen LeadHerShip Senedd, sy’n cael ei redeg gan elusen cydraddoldeb rhywedd Chwarae Teg, nawr ar agor tan ddydd Llun 23 Ionawr ar gyfer ceisiadau. Bydd yn rhoi cyfle i fenywod rhwng 16-22 oed i gysgodi ASs, i ddysgu sut mae’r Senedd yn gweithio, mynd i Gwestiynau’r Prif Weinidog ac i gymryd rhan mewn ffug-ddadl. Nod y rhaglen yw chwalu camsyniadau ynghylch gwleidyddiaeth a chael gwared ar rwystrau er mwyn ysbrydoli mwy o fenywod ifanc i ystyried gyrfa yn y maes.
Mae LeadHerShip yn agored i fenywod ifanc yng Nghymru o bob cefndir a chymunedau ac nid oes angen unrhyw brofiad gwleidyddol i fentro am y cyfle. Yr unig ofyniad yw bod yr ymgeisydd ar gael i gymryd rhan ar ddydd Mawrth y 7fed o Fawrth, yn y Senedd ym Mae Caerdydd. Dylai menywod ifanc o leiafrif ethnig, sydd yn ystyried eu hunain yn anabl, sydd yn hunaniaethu fel LHDTC+, neu sydd yn perthyn i grŵp sydd yn cael ei dangynrychioli mewn bywyd cyhoeddus cael eu hannog i ymgeisio.
Mae’r cais ei hun yn gofyn i fenywod ysgrifennu am beth fyddai’r cyfle yn ei olygu iddyn nhw a pham eu bod nhw’n meddwl bod angen dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn 2023. Mae Natasha Asghar AS, Aelod Senedd Cymru dros Ddwyrain De Cymru wedi ffurfio partneriaeth gyda Chwarae Teg i noddi’r digwyddiad.