Mae menywod ifanc o Gymru yn cael eu gwahodd i wneud cais nawr am y cyfle i gysgodi entrepreneuriaid benywaidd llwyddiannus.
Gall menywod 18-25 oed, sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn busnes yn y dyfodol, wneud cais ar-lein am le ar LeadHerShip Busnes, sy’n cael ei redeg gan yr elusen cydraddoldeb rhywiol – Chwarae Teg. Nod y cynllun yw sicrhau bod menywod yn cael eu cynrychioli’n well yn rolau uwch y sector preifat, drwy roi diwrnod unigryw iddynt i ddysgu am entrepreneuriaeth a sut y caiff busnesau eu rhedeg.
Bydd y menywod ifanc llwyddiannus yn cael profiad uniongyrchol gan fodelau rôl ysbrydoledig ac yn darganfod yr hyn y mae’n ei gymryd mewn gwirionedd i arwain busnes ffyniannus yng Nghymru. Bydd y diwrnod yn rhoi amser un-i-un i’r rhai sy’n cymryd rhan gyda’u arweinydd a’u tîm, er mwyn cael dealltwriaeth o beth mae eu rôl yn ei cynnwys.
Mae’r angen i annog newid yn amlwg gan fod merched yn absennol yn arbennig o brif rolau busnes. Maent yn cyfrif am 6% yn unig o brif weithredwyr y 100 prif fusnesau yng Nghymru ac mae ymchwil gan Gyngor Busnes y Menywod yn dangos bod economi’r DU yn colli allan ar fwy na 1.2 miliwn o fentrau newydd oherwydd potensial busnes gan fenywod sydd heb ei gyffwrdd.
Arweinwyr busnes sy’n cymryd rhan yn y cynllun yw Lynda Sygona, Prif Swyddog Gweithredol, United Welsh yng Nghaerffili, Claire Swindell, Cyfarwyddwr Cleient, Spindogs yng Nghaerdydd, Anne Jessopp, Prif Swyddog Gweithredol, y Bathdy Brenhinol ym Mhont-y-clun, Sian Powell, Prif Weithredwraig, Golwg yn Llanbedr Pont Steffan, Sioned Morys, Cyfarwyddwr, Chwarel - Ffilm a Radio Annibynnol yng Nghricieth.