Mae prif elusen Cymru ar gyfer cydraddoldeb rhywedd, Chwarae Teg, wedi rhybuddio yn erbyn hunanfodlonrwydd yn y frwydr i sicrhau cenedl decach, wrth i ni edrych tuag at adfer o effeithiau Covid-19.
Yn ei hadroddiad blynyddol ar Gyflwr y Genedl, a gyhoeddwyd heddiw (8.2.21), mae Chwarae Teg yn amlinellu’r cynnydd a wnaed yng Nghymru o ran dod yn genedl gyfartal o ran rhywedd ac yn archwilio profiadau menywod yn yr economi, eu cynrychiolaeth a’r rhai sydd mewn perygl.
Eleni, mae’r ffigurau’n dangos gostyngiad cadarnhaol yn y bwlch cyflog ar sail rhywedd o 14.5% i 11.6% yng Nghymru, ond mae hyn yn gwrthgyferbynnu â ffigurau sy’n peri gofid o ran penodi menywod i swyddi cyhoeddus sydd wedi gostwng o 64% i 43.1%, a gostyngiad o ran penodi menywod yn gadeiryddion o 56% i dan 5%.
Yn gyffredinol, mae’r data a nodir yn yr adroddiad yn rhoi darlun cymysg iawn, nad yw, ar hyn o bryd, yn gallu rhagweld gwir effaith Covid-19 ar gydraddoldeb rhywedd.
Mae ymchwil i effaith Covid-19 ar fenywod a gynhaliwyd gan Chwarae Teg fis Hydref eisoes wedi amlygu’r anghydraddoldebau amlwg y maent wedi’u hwynebu yn ystod y pandemig. Mae menywod ddwywaith mor debygol â dynion o fod yn weithwyr allweddol yng Nghymru, yn fwy tebygol o fod wedi colli eu swyddi ac wedi ysgwyddo’r baich o ran addysg yn y cartref a chyfrifoldebau gofalu.
Mae’r data yn adroddiad Cyflwr y Genedl yn adeiladu ar hyn, gan danlinellu’r rhaniad amlwg mewn meysydd eraill sy’n gysylltiedig â rhywedd. Er enghraifft, mae 26% o fenywod yn nodi ‘gofalu am deulu a’r cartref’ fel rheswm dros fod yn economaidd anweithgar o gymharu â dim ond 6.5% o ddynion; mae 40.1% o fenywod yn gweithio’n rhan-amser o gymharu â dim ond 11.8% o ddynion; ac mae 86% o rieni sengl yn fenywod, a dyma’r aelwydydd sydd fwyaf tebygol o bell ffordd o fyw mewn tlodi.
Mae heriau’n cael eu gwaethygu hefyd gan ffactorau rhyngblethol, gyda menywod o leiafrifoedd ethnig yn llawer mwy tebygol o fod yn economaidd anweithgar na menywod gwyn.
Mae’r mater hwn yn dwysáu’r anfanteision a wynebir gan lawer o fenywod, ac yn amharu’n sylweddol ar eu gallu i gyrraedd eu llawn botensial yn yr economi, i gymryd rhan flaenllaw mewn bywyd cyhoeddus ac i osgoi risg.