Mae seremoni wobrwyo flaenllaw wedi cyhoeddi ei deilyngwyr cyn y prif ddigwyddiad yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae Gwobrau Womenspire Chwarae Teg 2021, yn cydnabod cyflawniadau a wnaed ar draws pob agwedd ar fywyd, o lwyddiannau personol i gyfraniadau rhagorol. Mae’r digwyddiad yn dathlu ac yn arddangos y cyflawniadau rhyfeddol hyn o bob rhan o Gymru - gan ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.
Ymhlith y teilyngwyr y mae hyrwyddwyr cymunedol, menywod mewn chwaraeon, rhai sy’n hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd, dysgwyr rhyfeddol ac arweinwyr ysbrydoledig. Darllenwch am y teilyngwyr nawr yma.
Bydd y gwobrau ar-lein yn cael eu cynnal o 7.00pm ar ddydd Iau 30 Medi, ac unwaith eto yn gobeithio denu cynulleidfa o filoedd - yn ffrydio ar draws Face Book Live a Twitter ITV Cymru.
Yn cael ei gynnal gan Andrea Byrne ac Elin Pavli-Hinde, mae Womenspire yn addo bod yn noson epig o adloniant ar-lein - gyda fideos o straeon ysbrydoledig y teilyngwyr a pherfformiadau gan artistiaid benywaidd.