A hithau’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, rwy’n gobeithio y gallwn i gyd roi rhywfaint o’n hamser i ddiolch am, ac i ddathlu’r menywod hynny o’n cwmpas sy’n gwella ein bywydau mewn cynifer o wahanol ffyrdd.
Rwy’n ffodus fy mod yn cyfarfod ac yn clywed am gynifer ohonynt drwy fy ngwaith yn Chwarae Teg. Menywod ysbrydoledig, gweithgar o bob cefndir sy’n cadw ein cartrefi a’n gweithleoedd i fynd, ac sy’n gwneud y rhan fwyaf o rolau gweithwyr allweddol yng Nghymru.
Ac eto, wrth i’r flwyddyn ddechrau hedfan heibio, ar ôl Ionawr a deimlai’n ddiddiwedd, rhaid i ni gydnabod bod yr union fenywod hyn yn aml mewn perygl - yn y gwaith, gartref ac o gael eu tangynrychioli. Dyna pam, yn unol â thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2021, y mae’n rhaid #DewisHerio.
Nawr yn fwy nag erioed, mae hynny’n hanfodol - oherwydd wrth i ni symud tuag at adferiad o’r pandemig, mae’r rhai sy’n arwain y ffordd mewn perygl o ail godi gyda diffyg ystyriaeth o gydraddoldeb rhywedd – ar adeg pan fo angen hynny arnom fwy nag erioed.
Yr wythnos ddiwethaf cyfeiriodd y mynegai Menywod mewn Gwaith at y ‘shecession’ sydd ar fin digwydd. Mae Covid-19 wedi gwthio cynnydd menywod yn y gwaith yn y DU i lefelau 2017, gan olygu bod angen dwywaith y cynnydd ar fenywod er mwyn adfer erbyn 2030.
Brawychus iawn medd rhai, ond yn Chwarae Teg rydym wedi bod yn ymchwilio ac yn archwilio effaith Covid-19 ar fywydau menywod ers misoedd – ac o ganlyniad wedi bod yn rhybuddio yn erbyn bod yn hunanfodlon wrth i ni symud allan o’r argyfwng.
Mae Covid-19 wedi amlygu a gwaethygu anghydraddoldebau yn ein cymdeithas. Mae menywod ddwywaith mor debygol â dynion o fod yn weithwyr allweddol, yn fwy tebygol o fod wedi colli eu swyddi ac wedi ysgwyddo’r baich o addysgu gartref a chyfrifoldebau gofalu.
Mae’r ffeithiau hyn a llawer o ddangosyddion eraill yn datgelu’r risg wirioneddol, wrth i ni ddod allan o’r pandemig, mai menywod fydd olaf i ddychwelyd i’r farchnad lafur. Gallai’r goblygiadau i gyflogaeth a dilyniant gyrfa menywod fod yn drychinebus a byddwn yn llithro’n ôl hyd yn oed ymhellach yn hytrach nag yn cyflymu’r cynnydd.
Felly, mae’n sefyll i reswm bod angen i’r rhai sy’n ein harwain at normal newydd, ganolbwyntio’n well ar gydraddoldeb rhywedd. Rhaid i’r normal newydd fod yn decach na’r hyn rydym wedi’i brofi o’r blaen, lle mae anghenion menywod a grwpiau eraill sydd wedi cael eu taro galetaf - fel pobl BAME, y rhai sydd ag anabledd a gweithwyr ar incwm isel - yn ganolog i’r cynlluniau adfer.
Mae hyn yn rhywbeth na ddylai’r rhai sy’n arwain ein cenedl fentro’i anwybyddu. Allan nhw ddim fforddio anwybyddu cydraddoldeb rhywedd, yn enwedig pan fo’n hymchwil yn dangos y byddai’n ychwanegu bron i £14bn at economi Cymru.
Gyda’r dystiolaeth a’r ymchwil hwn wedi’u hamlygu, ac wrth i ni nesáu at etholiadau’r Senedd mae’n rhaid #DewisHerio y rhai sy’n gobeithio ein cynrychioli, er mwyn iddynt arwain gan ystyried tegwch a chanlyniadau cyfartal i bawb.
Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod ymchwil wedi dangos, er mawr siom, fod nifer y menywod mewn seddi y gellir eu hennill yn etholiad y Senedd ym mis Mai yn frawychus o isel ac y gallai hyn arwain at senedd Gymreig wedi’i dominyddu gan ddynion gwyn ac o bosibl heb unrhyw fenywod BAME o gwbl unwaith eto.
Wrth lansio ein ‘Maniffesto ar gyfer Cymru Gyfartal o Ran Rhywedd’ ddiwedd y llynedd, galwodd Chwarae Teg ar y rhai sydd mewn grym i fabwysiadu gweledigaeth ar gyfer Cymru lle gall pob menyw o bob cefndir a phrofiad gyflawni a ffynnu. Ac mae’r argymhellion a’r camau gweithredu a nodir yn y Maniffesto yn gynyddol berthnasol ac angenrheidiol.
Mae’r rhain yn cynnwys cynyddu maint y Senedd i 90 o aelodau etholedig, gyda chwota rhywedd; mwy o ddatblygu mentrau wedi’u hanelu at fenywod; a galluogi pobl i sefyll i’w hethol ar sail rhannu swydd.
Rydym yn galw am ail-lunio ein heconomi er mwyn rhoi mwy o werth ar y gwaith y mae menywod yn ei wneud, rhoi diwedd ar ein dibyniaeth ar ofal di-dâl a buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol fel gofal plant a gofal cymdeithasol.
Rhaid gweithredu er mwyn mynd i’r afael â rhwystrau mewn addysg sy’n arwain at wahanu yn ôl rhywedd yn y farchnad lafur.
Ymhlith elfennau hanfodol eraill, dylid cael mwy o gefnogaeth i sectorau gwaith sy’n cael eu cyflawni gan fenywod yn bennaf - nid meddylfryd “build, build, build” yn unig – mae angen strategaeth arnom sy’n ailgodi’n well ac yn decach.
Ar ôl cael gwahoddiad i roi tystiolaeth ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Senedd, croesawais lawer o argymhellion yn ei adroddiad ar Adferiad Tymor Hir o Covid-19 yr wythnos diwethaf . Roeddent yn cynnwys yr angen i Lywodraeth Cymru brif ffrydio cydraddoldeb yn ei pholisïau adfer a sicrhau amrywiaeth ar gyrff sy’n gwneud penderfyniadau sy’n gysylltiedig â’r adferiad.
Rydym yn gwneud gwahaniaeth, ond bydd gweithredoedd y rhai fydd yn arwain ein hadferiad yn gwneud mwy o wahaniaeth na’u geiriau, a rhaid i ni beidio â chaniatáu hunanfodlonrwydd. Rhaid #DewisHerio heddiw, ac yn y dyfodol, bob amser.