Mae pobl Cymru’n cael eu hannog i hyrwyddo menywod mwyaf ysbrydoledig y genedl wrth i Chwarae Teg agor yr enwebiadau ar gyfer eu gwobrau Womenspire 2021.
Mae’r elusen cydraddoldeb rhywedd yn cynnal y dathliad i gydnabod ac amlygu llwyddiannau a chyfraniadau menywod nodedig o bob cefndir.
Nawr yn eu chweched flwyddyn, bydd y gwobrau’n cael eu cynnal ar-lein am yr ail flwyddyn yn olynol, oherwydd Covid -19, ond unwaith eto, maent yn siŵr o ddarparu noson wefreiddiol o straeon ac adloniant ysbrydoledig.
Mae ffrydio byw drwy dudalen Facebook ac ar Twitter ITV wedi sicrhau y bydd gan y digwyddiad gynulleidfa o filoedd ym mhedwar ban byd. Cynhelir y digwyddiad Ddydd Iau 30 Medi, ac fe ddyfernir gwobrau i fenywod yn y categorïau canlynol:
- Hyrwyddwr Cymunedol
- Menyw mewn Chwaraeon
- Seren Ddisglair
- Dysgwr
- Entrepreneur
- Arweinydd
- Menyw mewn STEM
- Aelod o Fwrdd
- Menyw mewn Iechyd a Gofal
- Pencampwraig Womenspire 2021
Bydd dau gategori hefyd ar gyfer sefydliadau a busnesau sy’n ymroddedig i gydraddoldeb rhywedd ac yn darparu’r cymorth sydd ei angen er mwyn i fenywod lwyddo a ffynnu:
- Hyrwyddwr Cydraddoldeb Rhywedd (ar gyfer unigolyn)
- Cyflogwr ChwaraeTeg ©
I wneud enwebiad ar gyfer Gwobrau Womenspire 2021 neu i gael rhagor o wybodaeth ewch i https://chwaraeteg.com/gwobrauwomenspire. Mae’r enwebiadau’n cau am hanner dydd, ddydd Llun 21 Mehefin.