Ffigwr blaenllaw yn y byd corfforaethol i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fenywod

18th January 2021
Bydd y fenyw gyntaf i fod yn Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni diwydiannol mwyaf Cymru – General Electric (GE) Aviation Wales, sydd bellach yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau Seilwaith yn Amazon Web Services, yn ysbrydoli menywod ifanc mewn digwyddiad ar-lein fis nesaf.

Wedi’i drefnu gan Chwarae Teg, yn y gweminar bydd La-Chun Lindsay, sydd bellach wedi’i lleoli yn UDA, yn rhannu cyngor a hanes ei llwybr gyrfa drawiadol. Ar ôl dal rolau blaenllaw ledled y byd, mae La-Chun hefyd wedi dod yn un o’r tri llysgennad cyntaf i’w penodi gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru i wledydd tramor.

Cynhelir y weminar ddydd Mercher 10 Chwefror rhwng 5.00pm a 6.00pm. Bydd yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ofyn cwestiynau i La-Chun a chael gwybod am ei thaith i fyd peirianneg, beth a’i harweiniodd i’r byd corfforaethol, sut mae’n arwain tîm llwyddiannus a’i huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.

Wedi’i geni a’i magu yn Rock Hill, South Carolina, mynychodd Le-Chun Brifysgol Clemson a graddiodd yn 1995 gyda gradd B.S. mewn peirianneg gerameg. Mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau gan gynnwys gofal iechyd, awyrennau, cludiant, y cyfryngau a gwasanaethau ariannol. Derbyniodd La-Chun dair doethuriaeth anrhydeddus o brifysgolion yng Nghymru yn ogystal â sawl gwobr fyd-eang am ei gwaith fel eiriolwr dros amrywiaeth a chydraddoldeb.

Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at siarad â'r menywod ifanc drwy'r gweminar a'u helpu i wireddu eu potensial. Rwyf bob amser wedi hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb. Yn ystod fy nwy flynedd gyntaf yn GE Aviation Wales, gwnaethom gynyddu cynrychiolaeth menywod ar lawr y ffatri o 1% i 13%. Fe wnaethom hefyd lansio Pennod LGBTQ+ gyntaf GE yng Nghymru a dyfodd yn gyflym i fod yn Bennod LGBTQ+ fwyaf GE yn y DU."

"Rwy'n teimlo'n gryf y dylai gweithle da ganiatáu i bawb ffynnu, datblygu a bod y gorau y gallant fod ac mai'r ffordd orau o gyflawni hyn yw pan all pawb ddod â'u hunain "yn gyfan gwbl" i’r gwaith.

"Er fy mod bellach yn gweithio'n ôl yn UDA rwyf hefyd yn hynod falch o fod yn rhan o Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru, sydd â chodi proffil y genedl ledled y byd yn un o’i phrif nodweddion.

La-Chun Lindsay
Gyfarwyddwr Gweithrediadau Seilwaith yn Amazon Web Services

Alla i ddim meddwl am ffordd fwy trawiadol o gychwyn ein digwyddiadau #LeadHerShip ar gyfer 2021. Rwy'n siŵr y bydd pawb sy'n cofrestru yn cael eu gwir ysbrydoli gan daith yrfa anhygoel La-Chun fel menyw sy’n arwain."

"Er gwaethaf cynnydd, mae menywod yn parhau i gael eu tangynrychioli mewn swyddi o bŵer ac arweinyddiaeth mewn Llywodraeth, busnes a bywyd cyhoeddus. Mae #LeadHerShip yn ceisio sicrhau bod menywod yn cael eu cynrychioli'n well mewn rolau gwneud penderfyniadau ac yn rhoi llwyfan iddynt fel bod eu lleisiau'n cael eu clywed, a’u galluogi i weld eu hunain fel arweinwyr y dyfodol.

Emma Tamplin
Rheolwr Cydweithredu