Yn dilyn Gradd Meistr mewn Adnoddau Dynol Strategol a gyrfa ddisglair yn y Llu Awyr Brenhinol, aeth Hannah ymlaen i sefydlu Toddle, busnes sy’n creu cynhyrchion gofal croen naturiol i blant. Mae’n teimlo’n gryf bod y brand yn cynrychioli mamau yn ogystal â sgiwyr, cerddwyr, y rhai sy’n mynychu gwyliau, syrffwyr a mwy! Yn ogystal, mae’n gweithredu polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth yn Toddle sydd ar flaen y gad yn y diwydiant, ar ôl blynyddoedd o hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y ddau ryw yn y Llu Awyr Brenhinol.
Roedd cael fy enwebu’n wych – daeth ar adeg pan oeddwn yn gweithio’n eithriadol o galed ac nid oeddwn wedi cymryd ychydig o amser i werthfawrogi’r hyn roeddwn wedi’i gyflawni. Y cyfan roeddwn yn ei weld oedd y dasg frawychus o’m blaen!
Roedd cael bod ar y rhestr fer yn foment i feddwl; gwnaeth i mi sylweddoli fy mod wedi llwyddo i greu cymaint o ddim, ac, i ddweud y gwir, roeddwn i wedi cyflawni cryn dipyn. Roedd yn wych derbyn y dilysiad hwnnw gan sefydliad fel Chwarae Teg, sydd mor sefydledig a pharchus.
Cefais fy synnu fy mod wedi ennill. Roeddwn mewn categori gyda rhai busnesau anhygoel, ac roeddwn yn hapus i fod yno o gwbl! Roeddwn yn arbennig o hapus gan fod fy ngŵr, peilot â chwmni hedfan sydd i ffwrdd yn aml, wedi colli nifer o ddigwyddiadau busnes. Felly roedd gwybod ei fod yno i fy ngweld yn ennill yn golygu cymaint i mi, gan ei fod wedi bod mor gefnogol. Roedd mor falch ohonof wrth fy ngweld yn cerdded i fyny i’r llwyfan.
Y Gwobrau Womenspire oedd hefyd y tro cyntaf i’r busnes dderbyn cydnabyddiaeth, ac mae wedi ein helpu’n aruthrol o ran cael hygrededd a sylw, ac mae’r momentwm hwn wedi parhau! Dyma’r tro cyntaf i ni feddwl bod pobl yn credu yn y busnes ac roedd hyn yn golygu llawer iawn i ni!