LeadHerShip - diwrnod gyda Spindogs

11th March 2020
Blog gan cyfranogwr LeadHerShip, Mariyah Zaman.

Dychmygwch y teimlad a gewch chi ar ôl i chi weld dyfyniad neu glip sy’n eich ysbrydoli ar y cyfryngau cymdeithasol, ond lluosogwch hyn dros ddiwrnod cyfan. Dyma’r teimlad ges i wrth dreulio’r diwrnod gyda’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cleientiaid yn Spindogs, Claire Swindell.

Fel menyw ifanc Foslemaidd sy’n ceisio llwyddo yn y byd entrepreneuraidd, pan welais i neges Facebook yn gofyn am geisiadau am gael treulio diwrnod cyfan gyda menyw sy’n Brif Swyddog Gweithredol neu’n gyfarwyddwr cwmni, roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i mi ymgeisio. Sylweddolais fod cyfle euraidd o’m blaen pan gefais i e-bost yn dweud fy mod wedi cael fy nerbyn ar LeadHerShip. Dyma gyfle i gael ateb i fy nghwestiynau o safbwynt y gallwn i uniaethu ag ef.

Cyn i mi ddechrau sôn am fy niwrnod gyda Claire, rhaid i mi gyfaddef fy mod yn mynd i mewn i hyn gyda rhywfaint bach o hunan-amheuaeth a dos go fawr o imposter syndrome ynghylch a oeddwn i’n barod i gymryd y ‘naid o ffydd’ i’m menter busnes fy hun. Roeddwn i wrth fy modd bod y cyfle wedi dod gan fusnes lleol, ffyniannus o Gaerdydd – roedd gymaint â hynny’n fwy atyniadol ac yn gwneud i mi deimlo’n fwy cysurus.

Ar unwaith roedd swyddfa hyfryd SpinDogs ym Mae Caerdydd yn teimlo fel lle ysbrydoledig i fod ynddo. Aeth Claire â fi am dro o amgylch y swyddfa, a soniodd am bwysigrwydd amgylchedd gwaith cydweithredol yn y cwmni. Roedd adrannau croesawgar ac agored y gweithle creadigol yn gosod y cywair ar gyfer un o’r prif gynghorion a roddodd Claire i mi am y byd busnes; does yr un entrepreneur llwyddiannus yn cyrraedd yno ar ei ben ei hun.

Mae pobl bob amser yn sôn wrthyf am bwysigrwydd rhwydweithio, ond does neb erioed wedi dweud sut i fynd â phethau ymhellach na’r adnabyddiaeth gyntaf honno. Soniodd Claire am hanesion o’i phrofiad ei hun a sut y mae rhai o’r penderfyniadau pwysicaf y mae wedi gorfod eu gwneud mewn busnes wedi cael eu llywio gan ffrindiau sydd ganddi o fewn ei rhwydwaith proffesiynol.

Rhoddodd hyn bwysigrwydd y sgwrs dros goffi mewn perspectif, a sut y gall pobl fod yn wirionedd fod yn falch yn hytrach nag yn ddig eich bod yn gofyn am eu cyngor. Gall yr un unigolyn fod â’r holl arbenigedd yn y byd, felly cyfnewid arbenigedd sy’n gyrru’r byd busnes, yn llythrennol. Roedd hyn yn tawelu fy meddwl.

Roeddwn i’n teimlo fel tasai’r disgwyliad mawr hwnnw o annibyniaeth lwyr sydd i’w deimlo o’r byd entrepreneuraidd wedi cael ei godi oddi ar fy ysgwydau.

Arweiniodd Claire fi i mewn i ystafell gyfarfod lle dechreuodd fynd drwy hanes y cwmni a’i thaith bersonol hi gyda SpinDogs. Roedd yn ddiddorol clywed faint oedd y cwmni wedi ehangu a newid dros y blynyddoedd, am yr heriau a fu ar y daith yn ogystal â sut beth oedd diwrnod arferol yn nyddiadur Claire. Soniodd am sut roedd bod yn fòs arni hi ei hun wedi caniatáu iddi fod yn hyblyg gyda’i hamser, yn enwedig ar ôl cael ei phlentyn cyntaf roedd hi’n gallu rheoli’r amser a roddai i’r busnes ac i’w chyfrifoldebau personol.

Yn ddiweddarach cawsom sgyrsiau anffurfiol a sylwgar dros ginio mewn caffi lleol lle gefais gyfle i drafod fy nghynlluniau i mewn busnes a’r rhwystrau roeddwn wedi’u profi wrth geisio cyflawni fy amcanion. Rhoddodd Claire sylw llawn i’m pryderon a’m hymholiadau drwy’r dydd. Roeddwn i’n gwerthfawrogi’n fawr ei sylwadau a’r amser a roddodd i wrando ar ble’r oeddwn i ar fy nhaith innau.

Mae’n debyg y byddai’r blog yma’n troi’n draethawd pe byddwn i’n ailadrodd yr holl gynghorion gwerthfawr a roddodd Claire i mi yn ystod ein trafodaethau, felly’n hytrach, dyma restru’r pum prif neges a gefais i’r diwrnod hwnnw;

  1. “Peidiwch â dweud ‘jyst’ cyn rhoi gorchymyn neu ymateb i gais.” Soniodd Claire fod hyn yn rhywbeth yr ydym yn ei wneud yn aml fel menywod, yn enwedig wrth sôn am ein cyflawniadau personol neu ofyn am rywbeth gan eraill mewn swyddi arwain.
  2. “Dywedwch na i unrhyw beth nad ydych yn gyfforddus ag ef.” Fydd dim byd byth yn cael ei gwblhau hyd eithaf eich gallu os nad yw eich calon ynddo’n gyfan gwbl. Dylai difaru siomi eich hun fod yn fwy na’r ofn o siomi pobl eraill.
  3. “Mae pobl yn talu am y blynyddoedd ac nid am y funud.” Fe wnaeth hyn wir yn fy nharo i. Mae’r gwerth yn yr hyn y byddwn ni’n ei greu ac nid faint o amser rydym yn ei gymryd i wneud hynny. Rwy’n teimlo nad ydym yn sylweddoli faint o amser a gymerodd hi i gyrraedd sefyllfa o arbenigedd o ran gallu cynhyrchu cynnyrch o ansawdd da a chynnyrch sy’n foddhaol ar gyfer y farchnad.
  4. “Cyn gwneud penderfyniad, gofynnwch i chi’ch hun beth yw’r peth gwaethaf a allai ddigwydd ac yna cynlluniwch yn unol â hynny.” Os y gallwch chi baratoi ar gyfer y gwaethaf, a delio ag ef, yna gallwch ddelio ag unrhyw beth arall sy’n digwydd.
  5. “Peidiwch ag ofni peidio â chael eich adnabod fel yr entrepreneur mwyaf llwyddiannus – anelwch am yr hyn sy’n rhoi boddhad i chi.” Dysgais i fod uchelgais yn ardderchog, cyn belled nad yw’n amharu ar eich hapusrwydd.

Hoffwn ddiolch i Chwarae Teg am fy nerbyn ar LeadHerShip ac i Claire am ei hamser, ei sylw a’i chyngor anhygoel. Rwy’n gobeithio y bydd y darn hwn yn ysbrydoli eraill i fanteisio ar gyfleoedd y maen nhw wedi bod yn eu hystyried ond heb deimlo’n ddigon hyderus i’w cymryd.