Mae LEB yn ‘datblygu’ pethau mawr i staff a chleientiaid

13th May 2022
Mae cwmni adeiladu blaenllaw, sy’n gweithio i fynd i’r afael â’r ffaith nad yw merched yn cael cynrychiolaeth ddigonol yn y diwydiant, wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei gynnydd.

Mae LEB Construction Ltd, o Aberystwyth, wedi bod yn gweithio gyda’r elusen cydraddoldeb rhywedd, Chwarae Teg, yn sgil cofrestru ar gyfer ei Rhaglen Fusnes Cenedl Hyblyg 2 a gyllidir yn llawn.

Mae’r busnes blaengar a mentrus bellach wedi derbyn statws ‘Cyflogwr Chwarae Teg - Datblygu’ gan Chwarae Teg, ar ôl ymdrechu i annog merched i ystyried gyrfa mewn adeiladu fel dewis dilys. Yn ogystal â gweithredu polisïau ac arferion cynhwysol, mae LEB hefyd yn mynd i’r afael â phroblem sy’n bodoli ar hyd a lled y diwydiant, sef lles, drwy ymrwymo i gefnogi iechyd meddwl ei holl staff.

Gweithiodd Chwarae Teg gydag LEB ar draws nifer o feysydd yn ymwneud ag arferion polisi a gweithio, gan sicrhau eu bod yn gyflogwyr sy’n dda i deuluoedd, yn hyblyg ac yn gynhwysol a chanddynt system rheoli perfformiad effeithiol sy’n caniatáu i staff ffynnu.

Mae’r cwmni’n arbenigo mewn ailfodelu cymhleth, adnewyddu a phrosiectau adeiladu o’r newydd. Yn ddiweddar dathlon nhw Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched drwy ffilmio a rhannu fideo o Charlie Standing sy’n Rheolwr Adnoddau Dynol a Chyllid ac sydd bellach yn Berson Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn LEB, yn sôn am ei thaith i’r diwydiant adeiladu. Yn ogystal, gwnaed a rhannwyd fideo o’r prentis benywaidd newydd, Antonia Morgan, yn annog merched i fynd i’r sector.

Fel busnes rydym wedi ymrwymo i wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer y busnes a’r diwydiant adeiladu’n gyffredinol. Rydym yn falch o’r newidiadau yr ydym wedi eu gwneud hyd yn hyn ac wrth ein bodd ein bod wedi cyflogi prentis saer benywaidd ers ymuno â’r rhaglen.

“Mae Chwarae Teg wedi rhoi cymaint o gefnogaeth ac arfau gwerthfawr i ni dros y naw mis diwethaf. Byddem yn eu hargymell i unrhyw gwmni sydd angen rhagor o gefnogaeth gyda’u Hadnoddau Dynol.

Charlie Standing
Rheolwr AD a Chyllid, LEB Construction Ltd

Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda Charlie a thîm LEB i helpu i wella arferion a pholisïau gwaith. Mae’r cwmni wedi gweithio’n galed iawn ac mae ei ymrwymiad i’r rhaglen wedi bod yn werth chweil gan fod y busnes wedi gweithredu cymaint o newidiadau cadarnhaol sydd wedi gwella amrywiaeth a chynhwysiant ac wedi annog merched i ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu.

Carys Strong
Partner Cyflogwyr, Chwarae Teg

Caiff Rhaglen Cenedl Hyblyg 2, a gynhelir gan Chwarae Teg, ei chyllido’n llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth ar https://chwaraeteg.com/prosiectau/cenedl-hyblyg2-rhaglen-fusnes/