Mae’n bryd enwebu Wonder Women Cymru

19th April 2023

Gofynnir i bobl Cymru enwebu’r menywod mwyaf rhyfeddol yn eu bywydau, wrth i Wobrau Womenspire Chwarae Teg ddod yn fwy ac yn well fyth ar gyfer 2023!

Mae’r elusen cydraddoldeb rhywedd wedi agor enwebiadau ar gyfer ei dathliad blynyddol, sy’n cydnabod cyflawniadau a chyfraniadau menywod eithriadol o bob cefndir.

Bellach yn eu hwythfed flwyddyn, gyda chynlluniau ar gyfer digwyddiad mwy ac ysblennydd, bydd y gwobrau’n cael eu cynnal yn fyw ym mis Tachwedd tra’n cael eu darlledu ar-lein ar yr un pryd trwy YouTube a LinkedIn Live.

Mae gan Wobrau Womenspire Chwarae Teg 2023 naw categori sy’n agored i fenywod, fel y ganlyn:

  • Hyrwyddwr Cymunedol
  • Menyw mewn Chwaraeon, noddir gan Chwaraeon Cymru
  • Seren Ddisglair, noddir gan Floventis Energy
  • Dysgwr
  • Entrepreneur
  • Arweinydd, noddir gan Business in Focus
  • Menyw mewn STEM, noddir gan The ABPI
  • Menyw mewn Iechyd a Gofal, noddir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
  • Gwobr Cysylltydd Cymunedol - i gydnabod menyw sydd ag anabledd dysgu, noddir gan Mencap Cymru

Bydd Gwobr Hyrwyddwr Cydraddoldeb Rhywedd hefyd, noddir gan Academi Wales – sy’n agored i unigolyn o unrhyw rywedd – i gydnabod eu hagwedd ragweithiol at gau’r bwlch rhwng y rhyweddau yn eu gweithle.

Bydd ymrwymiad sefydliadau a busnesau sy’n rhan o raglen Cyflogwr Chwarae Teg© i gefnogi menywod i gyflawni a ffynnu hefyd yn cael ei gydnabod trwy Wobr Cyflogwr Chwarae Teg©.

I enwebu rhywun ar gyfer Gwobrau Womenspire Chwarae Teg 2023, neu am ragor o wybodaeth, ewch i chwaraeteg.com/womenspire. Mae’r enwebiadau’n cau am hanner nos ar 31 Mai 2023.

Mae’r brwdfrydedd dros Womenspire yn tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn gan ei fod yn ddigwyddiad heb ei ail - mor arbennig ac yn llawn straeon ysbrydoledig ac adloniant. Rwy’n falch iawn ein bod yn cadw ein fformat hybrid hefyd gan ei fod yn rhoi’r gorau o ddau fyd i ni – gan roi’r cyfle i filoedd diwnio i mewn o gysur eu cartrefi eu hunain, tra gall y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol a’n cefnogwyr ymuno â ni yn bersonol yn y digwyddiad byw.

Byddwn yn gofyn i bobl o bob cornel o Gymru, sy’n adnabod menyw ysbrydoledig, neu fusnes sy’n mynd y tu hwnt i’r llall, i enwebu. Rydyn ni eisiau clywed am gynifer o bobl ryfeddol â phosibl o bob rhan o’r genedl, sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w bywydau eu hunain ac i fywydau pobl eraill.

Lucy Reynolds
Prif Weithredwr, Chwarae Teg

Gall sefydliadau sydd â diddordeb mewn cael gwybod am noddi’r gwobrau anfon e-bost at [email protected].