'Cyflawni' nod o fod yn gyflogwr o ddewis

3rd August 2020
Mae busnes ymchwil, sydd wedi canolbwyntio’n hir ar ddiwylliant o ymgysylltu â staff, wedi cymryd hyd yn oed camau pellach i sicrhau ei le fel cyflogwr da.

Mae Miller Research, sydd wedi’i leoli yn Sir Fynwy, wedi ennill statws ‘cyflawni’ drwy raglen busnes Cyflogwr Chwarae Teg. Mae’r llwyddiant wedi cadarnhau ethos y cwmni o fuddsoddi mewn staff, sydd yn ei dro yn arwain at ddod yn gyflogwr o ddewis a chwrdd â nodau busnes.

Yn arbenigo mewn ymchwil, ymgynghoriaeth a gwerthuso, sefydlwyd y busnes 20 mlynedd yn ôl ac mae’n gweithio ar draws ystod o sectorau i gleientiaid yng Nghymru a ledled y DU.

Rydym yn gwybod mai ein staff yw ein hased gorau ac mae buddsoddi amser, gan weithio drwy'r rhaglen fusnes gyda Chwarae Teg, yn golygu bod gennym bellach y polisïau diweddaraf sy'n addas i deuluoedd ac arferion datblygu staff wedi'u sefydlu.

"Drwy ddarparu staff â'r hyn sydd ei angen arnynt yn y gwaith a thrwy gefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, mae gennym fusnes a gweithlu hapus a ffyniannus. Rydym am gynnal ein twf diweddar a sicrhau bod y bobl orau yn ein gweld fel lle maent am weithio. Nawr fel busnes, gallwn ddangos ein bod yn 'cyflawni' safonau uchel.

Claire Harris
Rheolwr Swyddfa, Miller Research

Roedd gweithio gyda Miller Research yn brofiad gwerthfawr iawn gan eu bod wedi'u tiwnio i'r hyn yr oeddent am ei gael o'r rhaglen fusnes – i greu diwylliant a thîm cadarnhaol a oedd hyd yn oed yn fwy cynhwysol. Mae'r busnes yn llwyr haeddu ei wobr 'cyflawni' a gwn y bydd yn parhau i ddatblygu a mynd o nerth i nerth yn y dyfodol.

"Mae ein rhaglen fusnes yn canolbwyntio ar yr hyn y mae ar sefydliadau ei angen fwyaf, boed yn welliannau i weithio hyblyg, cyfathrebu, perthynas waith, recriwtio a mwy. Yn y pen draw, caiff hyn i gyd ei ariannu'n llawn a gall gyflawni gwell perfformiad, enw da a mwy o sylfaen cleientiaid ac allbwn i fusnesau.

Claire Foster
Partner Cleientiaid, Chwarae Teg
6th Aug 2020
Creating an inclusive culture and a positive team.
Success Story