Mae ysgolion uwchradd ym Mro Morgannwg yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer y digwyddiad Nid dim ond ar gyfer bechgyn diweddaraf, sy’n bwriadu helpu merched i gael gwybod mwy am wahanol yrfaoedd mewn amryw ddiwydiannau cyn iddynt ddewis eu hopsiynau ar gyfer TGAU.
Bydd y digwyddiad nesaf ar 18 Medi, a gynhelir gan Chwarae Teg, yn canolbwyntio ar y diwydiant awyrennau, wrth i’r elusen cydraddoldeb rhywiol ymuno â Chanolfan Gynnal a Chadw British Airways a Gyrfa Cymru. Gyda’i gilydd, byddant yn dangos nad dim ond ar gyfer bechgyn mae gyrfaoedd mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).
Bydd Ysgol Uwchradd Pencoedtre ac Ysgol Llanilltud Fawr yn mynychu a’r gobaith yw y bydd mwy yn dilyn eu hesiampl a chofrestru i fynychu’r sesiynau a fydd yn digwydd yn y Ganolfan Cynnal a Chadw British Airways ym Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd.
Bydd y merched sy’n mynychu, o flwyddyn 8 a 9, yn cael cyfle i gael taith o amgylch yr awyrendy yn y Ganolfan ac i ddarganfod gyrfaoedd cyffrous amrywiol ym mhynciau STEM sydd ar gael. Byddant yn cwrdd â menywod eraill o amryw ddiwydiannau STEM ac yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau blas ar beirianneg, sgiliau digidol a sgiliau eraill na fyddant o bosib wedi’u hystyried o’r blaen.