Noddi gwobrau gyda’r nod o ysbrydoli

19th August 2021
Mae seremoni wobrwyo flaenllaw sy’n cydnabod llwyddiannau menywod ysbrydoledig ledled Cymru wedi croesawu prif noddwr ar gyfer ei seremoni yn 2021.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cadarnhau ei ymrwymiad i gydraddoldeb rhywedd, amrywiaeth a chynhwysiant trwy gefnogi Gwobrau Womenspire Chwarae Teg 2021 – a fydd yn dathlu’r menywod sy’n gwneud gwahaniaeth ledled y wlad.

Mae’r elusen cydraddoldeb rhywedd yn cynnal y digwyddiad i dynnu sylw at, a hyrwyddo cyfraniadau menywod rhyfeddol o bob cefndir.

Bydd y seremoni yn cael ei darlledu ar-lein o 7pm nos Iau 30 Medi, ar Facebook Live a Twitter ITV Cymru Wales. Y llynedd denodd y digwyddiad dros 30,000 o wylwyr ac unwaith eto mae’n addo bod yn noson wych o adloniant ar-lein - gyda fideos o straeon ysbrydoledig y teilyngwyr a pherfformiadau gan artistiaid benywaidd. Bydd yn cael ei gyd-gyflwyno gan Andrea Byrne o ITV Cymru Wales a’r actores a chyflwynydd Elin Pavli-Hinde.

Mae Womenspire yn seremoni wobrwyo unigryw, ac rydym ni’n falch iawn bod Trafnidiaeth Cymru wedi ymuno â ni fel prif noddwr. Mae hyn yn dangos bod Trafnidiaeth Cymru yn frwd dros helpu menywod i gyflawni a ffynnu, a diolch i'w cefnogaeth, yn Womenspire 2021 gallwn wneud hyd yn oed mwy i arddangos y menywod anhygoel sydd wedi cyrraedd y rhestr fer.

“Gyda’n gilydd gallwn hefyd dynnu sylw at y sefydliadau sy’n gweithio tuag at wneud cydraddoldeb rhywedd yn realiti yng Nghymru a rhannu eu straeon gyda rhai o’r menywod mwyaf ymrwymedig a rhagweithiol yng Nghymru a’u cyflogwyr.

Cerys Furlong
Prif Weithredwr, Chwarae Teg

Mae gwobrau Womenspire yn gyfle gwych i gydnabod llwyddiannau a chyfraniadau menywod.

“Rydym ni’n falch o gefnogi’r gwobrau ac amlygu gwaith Chwarae Teg, a’r hyn y mae sefydliadau eraill ledled Cymru yn ei wneud i greu amgylchedd i bawb lwyddo ynddo. Mae cefnogi'r gwobrau yn dangos ein hymrwymiad i greu'r amgylchedd hwnnw yn Trafnidiaeth Cymru ac mae'n helpu i ysbrydoli ac annog ein pobl ni ein hunain.

“Rydym ni'n gwerthfawrogi amrywiaeth - mae'n ein gwneud ni'n gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, gwneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae ganddyn nhw eu persbectif eu hunain felly rydym ni'n adeiladu tîm amrywiol sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym ni'n eu gwasanaethu. Trwy hyn rydym ni’n benderfynol o fod yn un o brif gyflogwyr cynhwysol Cymru.

“Mae sicrhau cydraddoldeb rhywedd ar draws ein sefydliad yn agwedd bwysig wrth greu amgylchedd gwaith positif i bawb, yn ogystal ag arwain at well darpariaeth i’n cwsmeriaid.

Emma Eccles
Pennaeth Trawsnewid AD, Trafnidiaeth Cymru

Gellir archebu tocynnau ar gyfer Gwobrau Womenspire Chwarae Teg 2021 am ddim, gydag opsiwn i gyfrannu, yn https://buff.ly/3qV1Zrr.