Noddwr Womenspire 2021 Portal

23rd July 2021

Dywedwch wrthym am eich sefydliad

Mae Portal yn ddarparwr hyfforddiant dwyieithog dynamig ac arloesol sy’n cefnogi sefydliadau i ddatblygu a gwella perfformiad unigolion drwy ddarparu cyrsiau ac adnoddau arloesol a chreadigol o ansawdd uchel.

Rydym yn darparu diplomâu’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar lefelau 3, 4, 5, a 7, yn ogystal â Hyfforddi a Mentora rhwng lefelau 2 a 5. Mae gennym brofiad yn cefnogi datblygiad proffesiynol ystod eang o rolau, o reolwyr uchelgeisiol hyd at uwch-arweinwyr profiadol. Gyda dros 500 o unigolion ar hyn o bryd yn cael mynediad at raglenni Prentisiaeth Uwch wedi’u hariannu’n llawn, gall Portal ddarparu cyfleoedd dysgu heb gost wedi’u seilio yn y gwaith i’r rhai sy’n dymuno datblygu eu sgiliau ymhellach, a chynorthwyo wrth iddynt geisio datblygu eu gyrfa.

Pam rydych chi’n cefnogi’r gwobrau?

Am ei fod â Bwrdd Cyfarwyddwyr a Rheoli sydd i gyd yn fenywod, mae’r synergedd rhwng Chwarae Teg a ninnau yn eithaf amlwg ac, ar ôl siarad â ffrind sy’n gweithio yn y sefydliad a gwrando ar ei hangerdd ynghylch y gwaith y mae Chwarae Teg yn ei gyflawni, roedd yn teimlo fel penderfyniad amlwg i’w cefnogi mewn unrhyw ffordd bosibl. Mae’n hanfodol y gall menywod ddod i’r gweithle, datblygu eu sgiliau a datblygu gyrfaoedd buddiol, ac yma yn Portal, rydym yn ceisio creu yr amgylchedd hwn yn barhaus fel y gall pawb yn ein gweithle lwyddo.

Pam mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn bwysig i chi?

Mae cydraddoldeb rhywedd nid yn unig yn hawl ddynol hanfodol, ond mae’n sylfaen angenrheidiol ar gyfer byd heddychlon, llewyrchus a chynaliadwy. Yn fyd-eang, mae yna gymaint o fenywod a merched o hyd na allant gael mynediad o hyd at addysg, adnoddau neu wasanaethau ac sy’n byw mewn ofn o drais a gwahaniaethu yn seiliedig ar rywedd.
Os ydym yn anwybyddu hyn, yna ni fydd unrhyw newid ac, fel sefydliad hyfforddiant, rydym yn credu’n angerddol yn y cyfle i ddysgu a chyflawni. . Mae’n bwysig i bob menyw a merch deimlo wedi’u grymuso ac i fod â mynediad at yr un adnoddau a chyfleoedd â’u cyfoedion gwryw. Mae cynnydd wedi bod dros y degawdau diwethaf: mae mwy o ferched yn mynd i’r ysgol a mwy o fenywod yn gwasanaethu mewn swyddi arwain, a gobeithiwn y gallwn gael effaith bellach ar y gwaith hwn drwy gynnig cyfleoedd am ddatblygiad proffesiynol.

Pam rydych chi’n cefnogi gwaith Chwarae Teg?

Yn yr un modd ag unrhyw fater o wahaniaethu neu anghydraddoldeb o fewn y gymdeithas, oni bai ein bod yn gwrando’n weithredol ac yn gweithredu i wella’r diwylliant, yna mae’n ein gwneud yn rhan o’r broblem. Mae Chwarae Teg wedi gosod cynhwysiant, amrywiaeth a chydraddoldeb wrth wraidd eu cenhadaeth a hoffem gefnogi’r genhadaeth honno i yrru gwelliant a’u helpu i gyflawni’r nod hwn. Mae’n daith eithriadol o hir, ond mae angen i fenywod deimlo eu bod yn cael eu clywed a’u cynrychioli ac iddynt wybod bod yna sefydliadau sy’n gweithio byth a hefyd i gyflawni cydraddoldeb rhywedd o fewn eu gweithle eu hunain a hefyd darparu cyfleoedd am ddatblygiad proffesiynol fel y gall menywod symud i swyddi arwain.