Dywedwch wrthym am eich sefydliad
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn awdurdod iechyd arbennig o fewn GIG Cymru. Rydym yn sefyll ochr yn ochr â byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, ac mae gennym rôl arweiniol yn y gwaith o addysgu, hyfforddi, datblygu a llywio’r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, er mwyn sicrhau gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru.
Ein gweledigaeth: Mae rôl y gweithlu yn allweddol i ddatblygu ffordd gynaliadwy o ddarparu gofal iechyd i bobl Cymru yn y dyfodol. O ganlyniad, rydym yn gweithio’n agos gyda’n rhanddeiliaid i werthuso, ailddychmygu ac ailddyfeisio’n barhaus sut mae angen inni weithio i ddiwallu anghenion byd sy’n newid yn barhaus.
Ein diben: Ein diben yw integreiddio’r gwaith o gynllunio, datblygu, llywio a chefnogi’r gweithlu iechyd – a datblygu arbenigedd a galluedd yn y meysydd hyn – gan sicrhau bod gennym y staff iawn, gyda’r sgiliau iawn, yn y swyddi iawn i ddarparu iechyd a gofal o’r radd flaenaf i bobl Cymru.
Ein gwerthoedd: Parchu pawb ym mhob cyswllt y cawn ag eraill. Gyda’n gilydd fel tîm: byddwn yn gweithio gyda chydweithwyr ym mhob rhan o GIG Cymru a gyda sefydliadau partner. Syniadau sy’n gwella: harneisio creadigrwydd, ac arloesi a gwerthuso’n barhaus
Pam rydych chi’n cefnogi’r gwobrau?
Mae ein strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru yn amlinellu ein huchelgais ‘y bydd arweinwyr mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn arddangos arweinyddiaeth gyfunol a thosturiol erbyn 2030’.
Mae hyn yn golygu bod yn gynhwysol, felly i hyrwyddo ac ymgorffori cynhwysiant o fewn ein diwylliant, rydym wedi creu set o egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Un o’n hegwyddorion yw “Gwella cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth, gan dynnu rhwystrau a therfynau yn ymwybodol.” Rydym felly yn ymdrechu’n ymwybodol i fod yn gynhwysol a sicrhau bod amrywiaeth ein harweinwyr ar draws maes iechyd yn adlewyrchu amrywiaeth ein gweithlu a demograffeg y boblogaeth rydym yn ei gwasanaethu.
Mae sawl aelod o staff AaGIC wedi cymryd rhan yn y rhaglen ‘Menywod yn arwain’ gyda gwerthusiad eithriadol o gadarnhaol, ac mewn rhai achosion yn arwain at ddatblygiad gyrfa i mewn i rolau arwain o fewn ein sefydliad.
Pam mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn bwysig i chi?
Mae cyfran sylweddol o’n gweithlu clinigol a phroffesiynol yn y GIG yn fenywaidd. Er bod rhaniad rhywedd teg yn cael ei adlewyrchu, yn ôl pob golwg, yn ein cronfeydd talent presennol o arweinwyr gweithredol uchelgeisiol, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i greu a hyrwyddo prosesau teg a chynhwysol sy’n galluogi cydraddoldeb rhywedd, a chydraddoldeb y nodweddion gwarchodedig eraill, wrth hyrwyddo a recriwtio i swyddi arwain. Mae’n bwysig i ni fod amrywiaeth a chydraddoldeb rhywedd yn cael eu hadlewyrchu ledled ein byrddau, timau a sefydliadau.
Rydym yn hyrwyddo ‘Merched yn arwain’ a chyfleoedd datblygu eraill gan Chwarae Teg i’n cydweithwyr yng ngweithlu GIG Cymru drwy ein Porth Arweinyddiaeth AaGIC, Gwella.
Pam rydych chi’n cefnogi gwaith Chwarae Teg?
Mae Chwarae Teg yn darparu modd o ysbrydoli menywod yn gadarnhaol i gyrraedd eu potensial drwy ymgyrchoedd, digwyddiadau, rhaglenni a gwobrau cydnabyddiaeth. Mae’n darparu sefydliadau â ffynhonnell amhrisiadwy o wybodaeth a chymorth credadwy ac arbenigol sy’n galluogi sefydliadau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau. Bydd Chwarae Teg yn helpu i lywio ein polisïau, arferion a systemau fel y gellir ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn ein diwylliant yn AaGIC a ledled GIG Cymru.