Prif arweinwyr trafnidiaeth benywaidd yn anelu at ysbrydoli menywod

11th May 2021
Bydd prosiect i annog arweinwyr benywaidd y dyfodol yng Nghymru yn canolbwyntio ar yrfaoedd yn y diwydiant trafnidiaeth drwy ddigwyddiad rhithiol yr wythnos nesaf.

Bydd ‘LeadHerShip Live: Merched yn arwain Trafnidiaeth’ yn dod â thair menyw ysbrydoledig o ar draws y sector trafnidiaeth ynghyd ar gyfer gweminar ar 19 Mai rhwng 5.00yp a 6.30yp.

Mae LeadHerShip, a gynhelir gan Chwarae Teg, wedi’i anelu at fenywod a’i nod yw sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli’n well mewn rolau sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau, ac yn rhoi llwyfan iddynt leisio eu barn.

Y modelau rôl benywaidd ar y panel fydd:

  • Loraine Martins OBE, Cyfarwyddwr Amrywiaeth a Chynhwysiant, Network Rail
  • Christine Boston, Cyfarwyddwr, Sustrans Cymru
  • Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr, Traveline Cymru

Bydd y gweminar yn rhoi cipolwg ar eu swyddi, llwybrau eu gyrfa, yn trafod arweinyddiaeth a chydraddoldeb rhywedd o fewn y sector trafnidiaeth yng Nghymru, ac yn rhoi cyfle i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau.

Rwy'n falch iawn bod gennym grŵp mor fedrus yn barod i rannu eu profiadau gyda menywod ifanc. Mae ein panel yn gweithio mewn amrywiaeth o rolau ym maes trafnidiaeth, felly mae gennym rhywbeth at ddant pawb. Rwy’n siŵr y bydd yr hyn maen nhw'n ei ddweud yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol i weld gyrfa mewn arweinyddiaeth trafnidiaeth fel dewis fydd yn rhoi boddhad iddyn nhw.

Emma Tamplin
Rheolwr Cydweithredu