Fe wahoddir menywod ifanc o bob cwr o Gymru i wneud cais am y cyfle i ddarganfod sut beth yw bod wrth galon gwleidyddiaeth Cymru.
Mae cynllun LeadHerShip Senedd, sy’n cael ei redeg gan elusen cydraddoldeb rhywedd Chwarae Teg, bellach ar agor tan ddydd Gwener 11 Chwefror ar gyfer ceisiadau. Bydd yn cynnig cyfle i fenywod 16-22 oed gysgodi ASau, dysgu sut mae’r Senedd yn gweithio, mynychu Cwestiynau’r Prif Weinidog a chymryd rhan mewn ffug-ddadl.
Yn agored i fenywod ifanc o unrhyw gefndir neu gymuned ledled Cymru, does ar LeadHerShip ddim angen unrhyw brofiad nac ymgysylltiad gwleidyddol blaenorol – dim ond bod yr ymgeisydd yn rhydd i gymryd rhan ddydd Mawrth, 22 Mawrth yn y Senedd ym Mae Caerdydd. Felly dylai menywod ifanc o leiafrif ethnig, sy’n ystyried eu hunain yn anabl, sy’n ystyried eu hunain yn LGBT+, neu’n sy’n perthyn i unrhyw grŵp sy’n cael eu tangynrychioli mewn bywyd cyhoeddus deimlo’u bod yn cael eu hannog i wneud cais.
Mae’r cais ei hun yn gofyn i fenywod ysgrifennu’n fyr am yr hyn y byddai’r cyfle’n ei olygu iddyn nhw a pham eu bod yn credu bod angen dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn 2022.
Mae Sarah Murphy AS, Aelod o’r Senedd dros Ben-y-bont ar Ogwr wedi partneru â Chwarae Teg i noddi’r digwyddiad.