STEM - tackling the skills gap

12th March 2019

Sut i fynd i’r afael â’r bylchau cyflog – cyngor gan arweinwyr STEM Caerdydd

Mae ffordd arloesol o feddwl a phartneriaethau deinamig rhwng arweinwyr ac addysgwyr STEM yn hollbwysig er mwyn gwyrdroi’r prinder difrifol o dros 200,000 o weithwyr gwyddonol bob blwyddyn, yn ôl arweinwyr busnes y brifddinas.

Mae arbenigwyr o Sony UK Technology Centre, yr elusen addysg wyddonol Techniquest, a’r cwmni eiddo deallusol Wynne Jones IP, yn siarad i nodi Wythnos Gwyddoniaeth Prydain rhwng 8 ac 17 Mawrth.

Maen nhw’n rhannu eu safbwyntiau wedi i adroddiad gan Engineering UK ddangos y bydd angen 203,000 o bobl â sgiliau peirianneg uwch ar draws y sectorau peirianneg, gwyddoniaeth a thechnoleg ledled y sector bob blwyddyn i ateb y galw tan 2024.

Er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r broblem hon, mae tri o arweinwyr STEM Caerdydd – y mae eu busnesau ar flaen y gad wrth arloesi ar draws y sectorau peirianneg, gwyddoniaeth a thechnoleg – yn cynnig eu cynghorion i bontio’r bwlch sgiliau.

Sony UK TEC

Mae Sony UK Technology Centre, canolfan weithgynhyrchu mwyaf blaenllaw Cymru, yn arloeswr byd-eang ar fater rhagoriaeth beirianyddol.

Mae ffatri Pencoed, sy’n cynhyrchu camerâu darlledu uwchfanyleb ar gyfer marchnadoedd ar hyd a lled y byd, yn enwog am fod ar flaen y gad yn dechnolegol, a llywio arloesedd ar draws y diwydiant gweithgynhyrchu.

Mae’r safle Cymreig nid yn unig wedi ennill bri byd-eang am gynhyrchu technoleg flaenllaw fel y camera 4K camera, Nimway, a Raspberry Pi, ond hefyd yn enwog am sicrhau bod llythrennedd digidol ar gael i genhedlaeth newydd o gyw-wyddonwyr.

Felly, mae’r ffatri’n cynnal rhaglen cymhwysedd digidol fewnol, sy’n golygu bod Sony UK TEC yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru er mwyn darparu mynediad i dechnoleg darlledu a’r cyfryngau. Mae hefyd yn rhedeg gweithdy Learn2Code, sy’n annog disgyblion i ysgrifennu eu cod eu hunain a dysgu sut mae technoleg yn rhan greiddiol o weithgynhyrchu.

Gyda Sony UK TEC yn cyfuno elfennau ymarferol ac addysgol i’w waith gydag ysgolion, mae Gerald Kelly, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Proffesiynol, yn credu mai cyfuniad o’r ddau yw’r ateb er mwyn datrys y prinder cynyddol o sgiliau.

Meddai: “Yma yn Sony UK TEC, rydym yn credu’n gryf nad yw’n ddigon da nac yn deg i’r diwydiant ddibynnu’n llwyr ar addysg i gyflawni’r hyn sydd ei angen yn nhermau STEM.

“Felly, rydym yn ymgysylltu ag ysgolion a Chwricwlwm Cymru ein hunain, ac yn darparu rhaglenni wedi’u teilwra sy’n llawn hwyl ac yn ennyn chwilfrydedd disgyblion, tra’n darparu gwybodaeth hanfodol am dechnoleg.
“Rwy’n credu taw’r cyfuniad cyfartal hwn o’r ymarferol ac addysgiadol a fydd yn llywio disgyblion i ystyried gyrfaoedd ym myd STEM maes o law, a mynd i’r afael â phrinder sgiliau’r dyfodol – rhywbeth sydd wedi cael cryn dipyn o sylw.

“Heb os, credwn fod cyflwyno STEM mewn ffordd fwy rhyngweithiol yn annog disgyblion i ailystyried rolau STEM, ac archwilio’r amryw byd o yrfaoedd sydd ar gael iddyn nhw drwy’r diwydiant.

“Mae’n hanfodol fod gweithgynhyrchwyr yn gweithio gydag ysgolion er mwyn tynnu sylw’r plant at rolau gwerth chweil fel rhan o’u cwricwlwm, er mwyn meithrin eu diddordeb o oedran ifanc.

“Yn bwysicach, credwn ei bod hi’n allweddol bod plant yn gallu deall a dysgu am godio’n hawdd – maes sydd nid yn unig yn siapio dyfodol y diwydiant gweithgynhyrchu, ond dyfodol diwydiannau’n fyd-eang.”

Gerald Kelly
Director of Professional Services, Sony UK TEC

Techniquest

Fel prif ganolfan darganfod gwyddoniaeth y genedl, mae Techniquest hefyd wedi llwyddo i gyfuno dysgu addysgol ac elfennau STEM arloesol ers 30 mlynedd a mwy.

Mae’r ganolfan boblogaidd ym Mae Caerdydd, yn cydnabod pwysigrwydd hyrwyddo gyrfaoedd gwerth chweil STEM ac ymgysylltu trwy gyfuniad rhyngweithiol o arddangosfeydd gwyddonol unigryw, sioeau a sgyrsiau, yn ogystal â gwaith maes addysgol mewn cannoedd o ysgolion o Fôn i Fynwy.

Ac mae ymroddiad Techniquest i hyrwyddo sgiliau STEM ymhellach a sicrhau bod gwyddoniaeth yn fwy hygyrch, ar fin cael hwb sylweddol ar ôl i gynllun ehangu gwerth £5.7 miliwn gael ei gymeradwyo – sy’n golygu y bydd y ganolfan yn cynyddu dros 60% o ran maint.

Gyda hyn mewn cof, mae’r prif weithredwr Lesley Kirkpatrick yn credu mai ar lefel addysg sylfaenol y gellir rheoli’r prinder sgiliau STEM cenedlaethol.

Meddai: “Fel elusen sy’n credu’n gryf yng ngallu sgiliau STEM i weddnewid potensial gyrfaol, rydym wedi cyfrannu’n llawn at drafodaethau yn ymwneud â’r prinder hwn a sut y gallwn ni wyrdroi’r sefyllfa.

“Mae’n destun cryn bryder o sawl safbwynt, gan fod y diwydiant STEM a’r arloesi parhaus yn gwneud cyfraniad mor allweddol i lwyddiant economaidd y genedl. Hefyd, gallai’r prinder gweithwyr medrus arwain at lai o ddatblygiadau technolegol ledled y DU mewn blynyddoedd i ddod, a gallai diffyg diddordeb mewn pynciau STEM weld miloedd o fyfyrwyr yn colli’r cyfle i gyflawni o’u gorau’n broffesiynol.

“O’n safbwynt ni, mae’n ymddangos bod modd taclo’r prinder hwn ar lefel addysg sylfaenol, trwy annog ysgolion, prifysgolion a chanolfannau gwyddoniaeth fel ni i gydweithio er mwyn hyrwyddo gyrfaoedd gwerth chweil ym maes STEM a’u hamrywiaeth ym mhob cam dysgu.

“Trwy feithrin perthnasau gwaith deinamig, sy’n tynnu sylw at fanteision sylweddol a rhagolygon cyffrous STEM, rydym yn credu y gallwn ennyn diddordeb addysg y blynyddoedd cynnar mewn gwyddoniaeth a chreu sbarc dros STEM ledled Cymru.

“Er mwyn pwysleisio hyn, rydym wedi gweithio’n ddiwyd a dyfal gydag ysgolion i ddatblygu a chyflwyno rhaglen addysg sy’n gwella a chyfoethogi’r cwricwlwm STEM ac sy’n cyffroi disgyblion o’r cyfnod Sylfaen hyd at Safon Uwch.

“Credwn fod cydweithio’n allweddol nid yn unig er mwyn arafu’r prinder ond er mwyn adfywio’r sector yn y blynyddoedd i ddod hefyd.”

Lesley Kirkpatrick
Chief Executive Officer, Techniquest

Wynne Jones IP

Efallai nad eiddo deallusol yw’r proffesiwn cyntaf sy’n dod i’r cof wrth ystyried STEM.

Ond gyda graddedigion cemeg, bywydeg, ffiseg a pheirianneg oll yn dewis y diwydiant, mae’n amlwg bod sgiliau gwyddonol nid yn unig yn berthnasol ond hefyd yn hanfodol i lwyddo yn y maes.

Mae llawer o raddedigion STEM yn teimlo bod eu dewisiadau gyrfaoedd braidd yn gyfyngedig os nad yw gwaith labordy neu ymchwil at eu dant. Fodd bynnag, mae eiddo deallusol yn rhoi cyfle iddyn nhw arallgyfeirio a meddwl tu fas i’r bocs a diogelu nod masnach, patentau, a chynlluniau cynhyrchion a chwmnïau ar hyd a lled y byd.

Mae cwmni Wynne Jones IP, sydd â swyddfeydd yng Nghaerdydd, Cheltenham, Llundain a Telford, yn arbenigo mewn cynghori ar draws holl feysydd eiddo deallusol, gyda phwyslais penodol ar y sector STEM.

Ac wrth ddenu graddedigion STEM a’u helpu i gyflawni o’u gorau, mae’r cwmni’n bendant ar flaen y gad.

Mae wedi sefydlu ei academi hyfforddiant llwyddiannus ei hun sy’n para pedair blynedd, ac yn addysgu a llywio hyfforddeion i fod yn dwrneiod medrus a blaenllaw. Bu’n llwyddiannus o flwyddyn i flwyddyn, ac mae’r cyfarwyddwr masnachol Dr Jayne Nation yn credu ei bod yn cynnig dewis amgen cyffrous i rai sydd am ddilyn gyrfa STEM.

Mae Dr Nation yn credu bod arallgyfeirio dewisiadau gyrfa STEM ac asesu anghenion busnes yn hanfodol i ddenu talent a mynd i’r afael â phrinder sgiliau STEM.

Meddai: “Mae gyrfaoedd STEM nid yn unig yn caniatáu i chi gyflawni rhywbeth gwerth chweil yn bersonol, ond hefyd yn eich helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i amryw byd o ddiwydiannau a newid bywydau miliynau o bobl ledled y byd o bosib.

“Dyna pam mae’r prinder sgiliau STEM yn destun pryder, ac fe allai fod yn drychinebus os nad awn i’r afael â hi’n gyflym.

“O’m safbwynt i, mae sawl syniad posib i fynd i’r afael â hyn. Gallai datblygu tasgluoedd busnes ac addysg mewn sectorau technoleg mawr â thargedau strategol, nodi’r anghenion a’r sgiliau technoleg busnesau nad ydynt yn cael eu diwallu ar hyn o bryd, a lle mae cryn alw amdanynt. Gallai hyn ragfynegi gofynion busnes a thueddiadau technolegol y dyfodol er mwyn sicrhau bod gan bobl y sgiliau perthnasol.

“Mae ymyrryd ar lefel addysgol hefyd yn hollbwysig, felly gallai sefydlu pecynnau academaidd a hyfforddiant galwedigaethol ar y cyd i fyfyrwyr dros 18 oed roi hwb aruthrol.

“Gallai’r rhain gynnwys hyfforddiant academaidd mewn STEM, ochr yn ochr â hyfforddiant technoleg mewn swydd, a fydd yn llenwi bylchau sgiliau blaenoriaeth y DU ar unwaith. Pe baen nhw’n cael eu rhedeg fel rhaglen ar y cyd, sy’n cyfuno hyfforddiant galwedigaethol ac academaidd, gallant fod yn brofiad hyfforddi o fri hynod boblogaidd.

“Efallai ei bod hi’n werth ystyried buddion a thaliadau cydnabyddiaethau swyddi STEM mewn meysydd allweddol hefyd, lle mae prinder sgiliau sylweddol. Gallai busnesau gynnig bwrsariaethau, cyflogau uwch a buddion eraill er mwyn denu pobl i’r swyddi STEM hyn mewn sectorau penodol.”

Dr Jane Nation
Commercial Director, Wynne Jones IP