Dywedwch wrthym am eich sefydliad.
Mae Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI) yn bodoli er mwyn sicrhau mai’r DU yw’r lle gorau yn y byd i ymchwilio, datblygu a defnyddio meddyginiaethau a brechlynnau newydd. Rydym yn cynrychioli cwmnïau o bob maint sy’n buddsoddi mewn darganfod meddyginiaethau a brechlynnau’r dyfodol.
Mae ein haelodau’n cyflenwi triniaethau arloesol sy’n gwella ac yn achub bywydau miliynau o bobl. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraethau a’r GIG fel y gall cleifion gael triniaethau newydd yn gyflymach a gall y GIG gynllunio faint y mae’n ei wario ar feddyginiaethau.
Bob dydd, rydym yn partneru gyda sefydliadau yn y gymuned gwyddorau bywyd a thu hwnt i drawsnewid bywydau ledled y DU.
Pam rydych chi’n cefnogi’r gwobrau?
Rydym wedi bod yn cefnogi gwobrau “Womenspire” Chwarae Teg am y pedair blynedd diwethaf ac rydym wrth ein boddau ei fod yn un o’r nifer o bartneriaethau a chydweithrediadau y byddwn yn ymgysylltu â nhw yng Nghymru a ledled y DU, yn ystod 2021. Eleni, mae’r ABPI yn parhau i dynnu sylw at y gwaith yr ydym ni, a’n haelodau, yn ei wneud mewn partneriaeth ag eraill. Mae hyn yn arbennig o wir am ein perthnasoedd ar draws y GIG, ar gyfer ymchwilio, datblygu a darparu meddyginiaethau a brechlynnau sy’n newid bywydau cleifion.
Fel y gymdeithas fasnach ar gyfer y diwydiant fferyllol sy’n seiliedig ar ymchwil yn y DU, rydym yn gweithio wrth wraidd datblygu polisi a gwneud penderfyniadau er mwyn sicrhau bod cleifion yn elwa o’r meddyginiaethau a’r brechlynnau diweddaraf a mwyaf datblygedig; gyda gwyddonwyr ar hyn o bryd yn ymchwilio ac yn datblygu dros 7,000 o feddyginiaethau arloesol yn fyd-eang.
Mae ein haelod-gwmnïau wedi’u lleoli ledled gwledydd y DU. Cwmnïau fferyllol yw mwyafrif y cwmnïau yn sector Gwyddorau Bywyd y DU, sef y cyfrannwr economaidd mwyaf i economi’r DU (sy’n fwy o 22% na’r sector cerbydau modur a chydrannau sydd yn yr ail safle). Mae pob swydd Gwyddorau Bywyd yn cefnogi 2.5 swydd mewn mannau eraill yn economi’r DU, gan olygu bod y sector yn cynnal cyfanswm o 482,000 o swyddi.
Pam mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn bwysig i chi?
Mae llawer o swyddi yn y diwydiant fferyllol yn gofyn am gymwysterau mewn gwyddoniaeth neu beirianneg, ond mae cwmnïau hefyd yn recriwtio pobl sydd heb gefndir gwyddonol ar gyfer swyddi gwerthu a marchnata, TG, adnoddau dynol, hyfforddi, cyllid a llawer o feysydd gweinyddol. Mae’r llwybr gwirioneddol a ddilynodd unigolion er mwyn cyrraedd eu swydd bresennol, a sut y maent yn gweld eu gyrfa’n datblygu i’r dyfodol, wedi’i amlygu mewn dros 80 o astudiaethau achos ar ein gwefan gyrfaoedd (www.abpi.org.uk). Mae’r rhain yn cynnwys israddedigion ar leoliad gwaith, pobl sydd wedi ymuno â chwmni’n syth o’r ysgol ac sydd wedi astudio’n rhan amser ar ôl eu cyflogi, ac eraill sydd wedi newid swydd sawl tro yn ystod eu gyrfa hyd yn hyn.
Mae’n bwysig i’r ABPI fod y diwydiant fferyllol yn gallu recriwtio’r bobl orau ar gyfer y swyddi hyn, beth bynnag fo’u rhyw.
Pam rydych chi’n cefnogi gwaith Chwarae Teg?
Rydym yn cydnabod bod Chwarae Teg wedi bod yn gweithio er mwyn helpu i sicrhau y gall menywod yng Nghymru gael mynediad i’r gweithle, datblygu eu sgiliau ac adeiladu gyrfaoedd buddiol, ers ei sefydlu yn 1992. Mae eich gwaith gyda’r llywodraeth, academyddion a diwydiant o ran dylanwadu ar ddatblygiad polisïau wedi bod yn ddylanwadol wrth esgor ar yrfaoedd newydd a chyffrous ar gyfer menywod ledled Cymru.
Mae’r ABPI wrth ei bodd i allu cefnogi’r gwaith hwn a’ch taith barhaus.