Dywedwch wrthym am eich sefydliad
Wedi’i sefydlu yn 2011, mae Grapevine Event Management yn arbenigo mewn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau rheoli digwyddiadau a rheoli cysylltiadau.
Mae Grapevine Event Management yn cyflawni digwyddiadau creadigol ac arloesol o safon i gleientiaid corfforaethol ledled y DU a’r tu hwnt. Rydym yn cynnig gwasanaeth cynllunio, rheoli a chynhyrchu digwyddiadau corfforaethol wedi’i gefnogi gan strategaethau marchnata a chyfathrebu effeithiol sy’n cyflawni nodau ac amcanion ein cleientiaid.
Pam rydych chi’n cefnogi’r gwobrau?
Fel busnes a grëwyd gan fenywod, rydym yn teimlo’i fod yn bwysig i fenywod gael y gydnabyddiaeth maent yn ei haeddu am eu cyflawniadau. Dylid clodfori menywod mewn swyddi arweinyddiaeth a dylent gyflwyno eu hunain fel esiamplau i fenywod eraill, ac mae gwobrau Womenspire yn gwneud hynny. Rydym wedi mynychu’r digwyddiad yn y gorffennol ac mae’n glir bod y gwobrau’n ffordd wych o arddangos menywod llwyddiannus.
Pam mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn bwysig i chi?
Rydym yn credu y dylai pawb, ni waeth beth yw eu rhywedd, eu hoedran, eu cefndir neu eu cenedligrwydd, gael yr un cyfleoedd mewn bywyd. Ni ddylai fod unrhyw rwystrau na nenfydau gwydr y mae’n rhaid i fenywod dorri drwyddynt i fod yn llwyddiannus mewn busnes a dylid gweld cydraddoldeb o’r ystafell fwrdd hyd at lawr y siop.
Pam rydych chi’n cefnogi gwaith Chwarae Teg?